Talu am wasanaethau ecosystemau

Prosiect cydweithredol sy’n dwyn cymunedau lleol, rheolwyr tir, asiantaethau statudol a busnesau ynghyd i ailgysylltu’n gymdeithasol ac yn economaidd â’r amgylchedd naturiol yn eu hardal.  Drwy gynnwys proses o ddysgu ar y cyd drwy gyfrwng prosiectau a chyrff PES eraill yng Nghymru a’r tu hwnt, y gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn sicrhau gwerth ychwanegol sylweddol. Nid yw nifer o gynlluniau a phrosiectau arloesol wedi llwyddo eto i sicrhau cytundebau PES pendant; drwy rannu gwybodaeth a’r hyn a ddysgwyd o’r prosiect hwn ag arloeswyr PES eraill, gall y prosiect hwn wneud cyfraniad gwirioneddol i ddatblygu PES yn ehangach.   

Gan adeiladu ar waith blaenorol, bydd y prosiect yn archwilio ac yn ymchwilio i ddulliau newydd o sefydlu cytundebau Talu am Wasanaethau Ecosystemau (PES) fel system hunangynhaliol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn yr hirdymor.   

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£269,319
Ffynhonnell cyllid:
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
Ardal:
Powys
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Clive Faulkner
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts