TELIMÔN

Nod y prosiect yw creu sianel deledu ar-lein, TeilMôn fydd yn ddwy-ieithog ac yn canolbwyntio ar yr ymdeimlad o agenda naws am le sy’n gysylltiedig â phobl a chymunedau ar bob lefel ac yn darparu hyfforddiant a chyfleoedd i bobl ifanc sydd allan o waith neu mewn tlodi mewn gwaith i wella eu sgiliau a’u cyflogadwyedd a phobl hŷn sydd am arallgyfeirio i feysydd cyflogaeth eraill.

Mae'r peilot hwn yn gweithredu ar ymchwil a gwblhawyd yn 2009 a oedd yn edrych ar y cysyniad o greu sianel fyddai'n cael ei darlledu ar y teledu.  Fodd bynnag, oherwydd nad oedd y grŵp llywio bryd hynny wedi cael yr amser i ymrwymo a phroblemau posibl gyda thrwyddedau daeth y prosiect i ben.  Mae LEADER, oherwydd ei natur yn ddull delfrydol o ddatblygu TeliMôn ac erbyn hyn mae ganddo grŵp llywio gwirfoddol o bobl sy'n gallu ymrwymo’r amser sydd ei angen i sicrhau bod y peilot yn llwyddo ac na fydd problemau trwyddedu cychwynnol yn broblem mwyach oherwydd bydd mai ar-lein yn unig fydd TeliMon ac nid oes cyfyngiadau (ar wahân i uwchlwytho cynnwys amhriodol).  

Bydd rhai ffilmiau yn ffeithiol a bydd angen comisiynu gwaith i gyflawni anghenion y cleient.  Fodd bynnag, y bwriad yw i TeliMôn ddod yn sianel deledu wirioneddol ar-lein a bydd yn cynhyrchu cynnwys a fydd yn adlewyrchu'r dyheadau hynny ar gyfer amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd. 

Syniadau yn unig yw'r uchod ond bydd yn cysylltu ag agenda 'naws am le' ac yn mynd ati i hyrwyddo gweithgarwch LEADER ar Ynys Môn.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£31,540.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Ynys Môn
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Jackie Lewis
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts