Tirwedd Dyffryn Elwy

Prosiect cydweithredol ar raddfa’r dirwedd gyfan yw Tirwedd Dyffryn Elwy a’i brif nod yw canolbwyntio ar gynefinoedd eiconig ein coetiroedd Cymreig. Bydd y prosiect yn rhoi cyngor a chymorth arbenigol i berchnogion coetiroedd i adfer, rheoli, clustogi ac ymestyn rhwydwaith y coetiroedd, rheoli coed hynafol a gwella’r cysylltiadau rhwng safleoedd.

Mae’r partneriaid yn cynnwys tirfeddianwyr, rheolwyr a defnyddwyr. Mae’r dull cydweithredol hwn o weithio’n allweddol i lwyddiant y prosiect  gan fod y rhan fwyaf o’r coetiroedd eiconig a hynafol yn eiddo i berchnogion preifat. Mae’r prosiect yn ceisio adeiladu ar y gwaith ymgysylltu a’r partneriaethau sy’n bodi eisoes mewn nifer o goetiroedd ar hyd a lled Cymru. Bydd modd i’r safleoedd rannu syniadau a gwybodaeth i sicrhau cynnydd, ac i sicrhau bod problemau fel rhywogaethau a chlefydau goresgynnol yn cael eu trin yn effeithiol ac yn effeithlon. Un o amcanion y prosiect yw datblygu sgiliau yn yr ardal er mwyn medru rheoli’r coetiroedd lleol a’r cynefinoedd hyn yn well. Drwy wneud hynny, bydd modd manteisio ar amrywiaeth o wasanaethau a chryfhau ecosystemau. Mae gan y prosiect gysylltiadau cryf â busnesau lleol, ysgolion a cholegau; ac mae’n ennyn diddordeb nifer o sectorau yn y gymuned leol.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£257,680.00
Ffynhonnell cyllid:
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
Ardal:
Wrecsam
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Lee Oliver
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts