Toiledau Gwyrdd Conwy

Nod y prosiect yw cysylltu â chwmni arbenigol i gynnal arolwg, a pharatoi adroddiad i edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu pob un o doiledau cyhoeddus gwledig Conwy a’u gweithredu mewn ffordd wyrdd, carbon isel.
Ar ôl galwad am geisiadau, y bwriad yw y bydd cwmni sy’n arbenigo mewn technoleg gynaliadwy yn ymweld â holl doiledau cyhoeddus gwledig Conwy (10 i gyd).

Byddan nhw’n archwilio’r adeiladau, yn siarad â rheolwyr yr adeiladau i gael manylion ynghylch y defnydd a wneir ohonynt a darparu adroddiad yn argymell sut y gall newidiadau fod o fudd i’r gwaith o reoli’r toiledau.

Ni fydd y prosiect hwn yn ariannu unrhyw newidiadau, ond bydd yr adroddiad yn egluro pa opsiynau sydd ar gael i reolwyr yr adeiladau.

Gall yr adroddiad edrych ar y posibilrwydd o osod paneli solar, creu “twll turio”, gosod tyrbin gwynt bychan, a sut i ddefnyddio dŵr glaw. Bydd hefyd yn nodi pa ddewis fyddai orau ar gyfer pob adeilad.
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£4000.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Conwy
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Rhys Evans
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts