Treftadaeth Ddiwylliannol a Digido

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn cynnal ac yn gwellar Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH) rhanbarthol, a ddefnyddir ar gyfer amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys sail ar gyfer darparu cyngor amgylchedd hanesyddol i ystod eang o sefydliadau ac unigolion, ffynhonnell wybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol ar gyfer grwpiau cymunedol, cymdeithasau hanes/archaeolegol lleol, myfyrwyr, academyddion ac unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn archaeoleg a hanes. Mae’r wybodaeth yn cael ei chadw ar ffurf ddigidol yn bennaf, gydar data craidd ar gael yn gyhoeddus trwy wefan Archwilio - www.archwilio.org.uk. Cronfa ddata/gwefan syn seiliedig ar fapiau yw hon. Fodd bynnag, beirniadaeth gyffredin gan ddefnyddwyr y CAH yw ei bod hin anodd deall y data daearyddol, gan ei fod yn ddata pwynt ac nid yn ddata polygonaidd. Mae hyn yn golygu bod heneb fawr, megis bryngaer, yn cael ei chynrychioli gan un dot ar y map yn unig, ac, oherwydd natur fympwyol cyfeirnodau grid, nid ywr dot hwn bob amser dros yr heneb. Yn ddelfrydol, byddai maint daearyddol llawn yr heneb yn cael ei ddangos fel polygon. Bydd y prosiect peilot hwn yn sefydlur fethodoleg ar gweithdrefnau ar gyfer creu polygonau digidol o’r safleoedd a’r henebion a gofnodir ar Gofnod Amgylchedd Hanesyddol Dyfed, gan ddefnyddio’r arferion gorau sydd wedi’u datblygu mewn mannau eraill yn y DU ac Ewrop. Fel rhan or prosiect, ar ôl sefydlur fethodoleg ar gweithdrefnau, bydd polygonaun cael eu creu ar gyfer safleoedd a henebion mewn tair ardal cyngor cymuned yn Sir Benfro.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£5,950
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Sir Benfro
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2
Cultural Heritage & Digitisation

Cyswllt:

Enw:
Ken Murphy
Rhif Ffôn:
01558 825991
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts