Twristiaeth Wledig

Mae pandemig COVID-19 wedi cymell llawer o bobl yn y DU i ail-ystyried pa mor atyniadol yw mynd ar wyliau yn y wlad hon, yn enwedig i'r cyrchfannau mwy gwledig hynny sy'n cynnig lle a diogelwch. Mae Sir Gaerfyrddin yn gorfod cystadlu â llawer o gyrchfannau sefydledig ac adnabyddus, ac felly mae'n rhaid bod yn arloesol yn y modd yr ydym yn gwahaniaethu o ran ein harlwy.

Bydd y prosiect hwn yn dwyn ynghyd yr amrywiaeth eang o gynnwys sydd wedi’i greu hyd yma i amlygu rhyfeddodau cefn gwlad Sir Gaerfyrddin, ac yn ei ail-becynnu i gynulleidfa newydd gan alluogi cymunedau gwledig i fod yn rhan o'r broses o arddangos eu hasedau yn arf ar gyfer adferiad gwledig.

Bydd gweithgareddau'r prosiect yn cynnwys y canlynol:

  • Ymgysylltu â rhwydweithiau presennol o fewn y deg tref a’r gefnwlad ehangach
  • Cefnogi'r broses o ddatblygu strategaeth farchnata ar gyfer pob ardal
  • Comisiynu copi newydd a gwreiddiol yn ymwneud â phob ardal er mwyn denu ymwelwyr newydd
  • Llunio cynnwys perthnasol i'w rannu ar draws amrywiaeth o lwyfannau digidol

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£32000.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Sir Gaerfyrddin
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Aled Nicholas
Rhif Ffôn:
01267 224496
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts