Mae hwn yn brosiect peilot blwyddyn o hyd a fydd yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth rhwng Castell-nedd Port Talbot, CVS, Gweithdy DOVE a Chanolfan Hyfforddi Glyn-nedd. Nod y prosiect yw dechrau datblygu economi bwyd a thyfu ffyniannus yng Nghastell-nedd Port Talbot. Bydd y prosiect peilot yn fan cychwyn ac yn galluogir nod tymor hwy o sefydlu economi bwyd a chynnyrch cysylltiedig ffyniannus ar gyfer economi Castell-nedd Port Talbot ac o bosib greu Hwb Bwyd Cymunedol a brand cyffredin ymhlith cynhyrchwyr.
Mae'r prosiect peilot yn:
- Mapio cynhyrchwyr cyfredol a chreu cyfeirlyfr o gynhyrchwyr / prosiectau lleol
- Cynllunio a darparu rhaglen beilot arloesol o weithgareddau / digwyddiadau tyfu bwyd cymunedol
- Dylunio ac achredu cwricwlwm newydd - Tystysgrif Tyfwyr NPT a phecyn cymorth dysgu, gan weithio gydag Agored Cymru a datblygu ar lwyddiant Prosiect Tyfu'r Dyfodol http://www.growingthefuture.co.uk/en/online-learning/
- Treialur cwricwlwm newydd trwy raglen o hyfforddiant/cefnogaeth sgiliau garddwriaethol
- Darparu mynediad at hyfforddiant mewn tyfu, prosesu a sgiliau menter e.e. bwytan iach, gwybodaeth am fwyd a ryseitiau, cynhyrchu bwyd, crefftau traddodiadol, gwaith coed ac ati.
- Creu rhwydwaith cymorth arloesol o gynhyrchwyr lleol a phrosiectau tyfu cymunedol
- Hyrwyddo bwyd iach fforddiadwy, wedii dyfu'n lleol - drwy ddarparu ystod o gyfleoedd a deunyddiau i godi ymwybyddiaeth ynghylch manteision bwyd lleol o ansawdd da, byrhau'r gadwyn gyflenwi a lleihau milltiroedd bwyd
- Arolygu tir sydd ar gael ar gyfer tyfu, datblygu partneriaethau gyda chymdeithasau tai, tirfeddianwyr preifat ac ati
- Sefydlu seilwaith ar gyfer Hwb Tyfu Cymunedol CNPT
- Ymgynghori chynhyrchwyr lleol a phrosiectau tyfu i asesu ac adrodd ar anghenion cymorth
- Nodi cyfleoedd yn y farchnad o fewn yr economi dwristiaeth leol i werthu cynnyrch bwyd a chynhyrchion cysylltiedig
- Ehangu a threialu gweithgareddau cefnogi gwirfoddoli a mentrau bwyd newydd
- Canolbwyntio ar ddefnyddio technoleg ddigidol fel offeryn ar gyfer marchnata (gyda phwyslais cryf ar fwyd Gwnaed yng Nghymru')
- Gweithio gydag unigolion / grwpiau i ddatblygu syniadau busnes, gan gynnwys cyngor a chefnogaeth mewn meysydd fel ymchwil a datblygu, marchnata a hyrwyddo, ansawdd a chynhyrchu, gwerthu a dosbarthu.
Bydd y cynllun peilot yn asesu'r ffyrdd gorau o helpu grwpiau dan anfantais i elwa ar rwydweithiau bwyd cymunedol cefnogol drwy:
- Ymestyn cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli / dysgu o ran tyfu bwyd cymunedol / garddwriaeth
- Adeiladu rhwydweithiau cryfach ar gyfer hunangymorth ac adeiladu mentrau cymunedol cydweithredol
- Gweithio ar 'lawr gwlad' i ymgysylltu 'r gymuned a darparu llwybrau dysgu cefnogol.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£103,027
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Castell-nedd Port Talbot
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 3
- Mesur:
-
19.2
- Growing Healthy Together
Cyswllt:
- Enw:
- Tony Potts
- Rhif Ffôn:
-
01639 631246
- Cyfeiriad e-bost:
- TonyP@NPTCVS.ORG.UK
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- http://www.nptcvs.wales/partnerships/tyfun-iach-gydan-gilydd/
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts