Ucheldiroedd Cadarn De-ddwyrain Cymru

Mae tirwedd yr ucheldir yn Nhorfaen, Caerffili a Blaenau Gwent yn wynebu nifer o broblemau sy’n amrywio o drosedd tirwedd, a diflaniad cynefinoedd a rhywogaethau allweddol i seilwaith gwael a chymunedau gwasgaredig. Gan adeiladu ar gynlluniau ymgysylltu eang blaenorol, bydd y prosiect yn datblygu camau cydweithredol i wella’r ucheldiroedd, yn cefnogi mentrau fferm, yn gwella profiadau i ymwelwyr ac yn creu cymunedau mwy cadarn.  

Bydd y tri awdurdod lleol, yr heddlu, y gwasanaethau tân ac achub, cymdeithasau tir comin, grwpiau gweithredu, undebau amaethyddol a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cydweithredu i roi’r prosiect ar waith. Ar y dechrau, bydd y pwyslais ar reoli tir i wella cyflwr y pridd ac ansawdd y dŵr, bioamrywiaeth a storio carbon.

Yr amcanion eraill fydd cryfhau’r berthynas rhwng rhanddeiliaid a defnyddwyr y tir comin i hybu cymunedau’r ucheldir, meithrin gallu drwy greu cyfleoedd i wirfoddoli a hyfforddi, ymgysylltu â’r gymuned, creu ffermydd mwy cystadleuol a hyfyw drwy eu hannog i arallgyfeirio, a datblygu cyfleoedd busnes arloesol.  Bydd y prosiect hefyd yn mynd i’r afael â’r rhesymau sylfaenol dros ddirywiad yr ucheldiroedd, sef dulliau gwael o reoli tir a phroblemau gwrthgymdeithasol fel tipio anghyfreithlon, cynnau tân yn anghyfreithlon a gyrru’n anghyfreithlon oddi ar y ffordd, gan greu cyfleoedd hamdden tawel a  gwella’r hyn sydd gan yr ardal i’w gynnig i ymwelwyr.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£399,000
Ffynhonnell cyllid:
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
Ardal:
Torfaen
Cwblhau:
South East Wales Resilient Uplands

Cyswllt:

Enw:
Andrew Osbourne
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts