Mae'r prosiect hwn yn cynnwys gosod uned ieir dodwy newydd ar gyfer 32,000 o ieir, cyfarpar prosesu a thrafod cysylltiedig a sied i ddal a thrin y tail. Mae'r buddsoddiadau'n cynnwys codi'r uned newydd, yn ogystal â'r holl osodiadau mewnol, yn ogystal â'r gwaith tir, a chostau gosodiadau trydanol. Bydd paneli solar yn cael eu gosod ar y sied a fydd yn cyfrannu at effeithlonrwydd ynni, gyda chyfarpar cyneafu dŵr glaw yn cael ei osod i gasglu'r dŵr to hefyd.
Mae partneriaid y busnes wedi treulio'r 24 mis diwethaf yn ymchwilio i'r prosiect hwn yn ofalus ac wedi dewis contractwyr arbenigol a fydd yn gosod cyfarpar o'r radd flaenaf i sicrhau bod y safonau lles uchaf yn cael eu bodloni, gan sicrhau bod cynaliadwyedd yn parhau i fod yn ganolog i'r prosiect. Mae'r busnes wedi ymgysylltu â phartneriaid allweddol yn ystod y broses, ac mae gwaith modelu pwrpasol wedi'i wneud ar wahanol agweddau ar y broses gynllunio.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£389,218
- Ffynhonnell cyllid:
-
Grant Cynhyrchu Cynaliadwy
- Ardal:
-
Sir Gaerfyrddin
- Cwblhau:
-
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts