Agorwyd Galeri yn Noc Fictoria, Caernarfon yn 2006 fel canolfan gelfyddydau a busnes amlswyddogaeth a chanolfan ranbarthol i gyfryngau a chelfyddydau Cymru. Dyfarnwyd cymorth gwerth £1.48m iddi gan y gronfa Cyrchfan Denu Twristiaid (TAD) er mwyn dyblu maint y ganolfan bresennol a thrwy hynny, helpu i dyfu'r busnes a datblygu Caernarfon fel cyrchfan.
Mae'r estyniad newydd yn golygu na fydd rhannau o'r safle presennol bellach yn cyrraedd safon debyg. Felly mae'r ymddiriedolwyr yn awyddus i ymgymryd â gwaith uwchraddio sylweddol er mwyn sicrhau bod cyfleusterau presennol y ganolfan yn unol â'r estyniad newydd. Bydd y prosiect yn cyflwyno ardal chwarae dan do, yn uwchraddio'r theatr bresennol, yn cyflwyno sgriniau digidol, pwyntiau gwefru EV a gofod celfyddydau creadigol.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£43,627
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)
- Ardal:
-
Gwynedd
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- John Adshead
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts