Yn 2004, sefydlwyd busnes newydd ochr yn ochr â'r mentrau bîff a defaid, gan fod rhaid i'r busnes gefnogi tri teulu. Ar hyn o bryd, mae gan y fferm 28,000 o adar maes. Dec gwastad sydd i'r adeilad gwreiddiol, ac mae 16,000 o adar yn byw mewn system aml-haen.
Mae'r busnes eisiau gwella ei berfformiad amgylcheddol trwy newid y systemau dec gwastad, a fydd yn cael effaith fawr ar lesiant yr adar hefyd.
Mae'r busnes wedi tyfu erbyn hyn, ac mae'n gwneud cais am drwydded IPPC ar gyfer 48,000 o adar maes yn awr.
Bwriedir i'r prosiect osod system aml-haen ar gyfer 32,000 o adar, i'w chysylltu â'r uned bresennol ar gyfer 16,000, gyda chludwyr wyau allanol, unedau paledu a phentyrwyr wyau i gael gwared ar y gweithgareddau llaw 100%, a robot i gynorthwyo gyda chodi paledi i symudwr paledi ar gyfer symud hambyrddau wyau.
Mae'r prosiect yn ceisio trosi rhan o'r uned newydd i ddarparu cyfleuster swyddfa a chegin i staff y fferm.
Ynghyd â chamerâu i fonitro symudiadau wyau dros y cludwyr wyau i'r uned brosesu.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£130,973
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd
- Ardal:
-
Powys
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Gail Jenkins
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts