Bydd y prosiect yn gweithio gyda 10 o gymunedau yng Ngogledd sir Benfro i ffocysu ar y deilliannau canlynol: 1 Datblygu mentrau adnewyddadwy cymunedol 2 Defnydd o dechnoleg carbon isel yn y sector busnes 3 Cefnogi pobl leol gyda gwelliannau ynni ir cartref 4 Datblygu mentrau storio ynni ar lefel cartrefi a chymunedau Bydd digwyddiadau cychwynnol yn y 10 cymuned yn nodi hyrwyddwyr ynni cymunedol i sefydlu trafodaeth a gweithgorau ar lefel llawr gwlad. Bydd y prosiect yn defnyddio technoleg ddigidol i sefydlu seminarau Skype gydag arbenigwyr ynni adnewyddadwy i ysbrydoli pobl/mentrau lleol i ddatblygu micro gynlluniau adnewyddadwy newydd ac i gydweithredu. Bydd cydlynydd rhan amser yn cael ei recriwtio ac yn sefydlu rhaglen dros 24 mis gan weithio gyda chymunedau i ddatblygur 4 maes gwaith uchod. Bydd y prosiect yn cwmpasu Gogledd Penfro yn gyntaf, gan obeithio gweithio gyda 10 o gymunedau. Cynnal digwyddiadau mewn neuaddau pentref. Gweithio gyda chymunedau i leihau allyriadau carbon, arbed ar gostau ynni adeiladau a datblygu syniadau adnewyddadwy cymunedol newydd (yn cynnwys storio ynni). Bydd digwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu ffilmio a chysylltiadau Skype gyda hyrwyddwyr ynni cymunedol eraill ar draws y byd. Bydd defnyddio technoleg ddigidol hefyd yn caniatu ar gyfer seminarau Skype mwy cynhwysfawr gydag arbenigwyr ynni adnewyddadwy cymunedol ysbrydoledig i ysgogi pobl/mentrau lleol i ddatblygu micro gynlluniau adnewyddadwy newydd ac i gydweithredu yn Sir Benfro. Maer prosiect yn cyd-fynd r LDS dan thema 4 gyda chyfeiriad penodol at gynlluniau ynni. Hefyd thema 5 defnydd digidol.
"
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£36,846
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Sir Benfro
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 4
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Holly Cross
- Rhif Ffôn:
-
01239 698559
- Cyfeiriad e-bost:
- holly@cwmarian.org.uk
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- http://www.cwmarian.org.uk
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts