Yr Hen Stablau

Mae’r prosiect yma ar gyfer cyllid tuag at gynnal astudiaeth dichonolrwydd i edrych ar y posibilrwydd o greu menter â chefnogaeth y gymuned mewn adeilad rhestredig hanesyddol gradd 2. Y gobaith yw creu byncws yn yr adeilad i ddarparu llety rhad i unigolion, teuluoedd a grwpiau. Mae’n targedu cerddwyr a beicwyr ar y pedwar llwybr beicio pwysig sy’n cyfarfod y dref a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. 

Nid oes unrhyw lety arall o fewn 600 milltir sgwâr i gerddwyr neu feicwyr sy’n teithio ar Lwybr Owain Glyndwr, llwybr Arfordir y Cambrian na llwybrau beicio’r NCN sy’n dod at ei gilydd ym Machynlleth. Mae’r ddau fusnes beicio yn y dyffryn a hefyd y cwrs garddwriaethol arfaethedig sydd i’w redeg gan Gerddi Bro Ddyfi yn creu angen nad yw wedi ei fodloni am lety grwp. Yn ogystal â hyn, mae Machynlleth yn ei hyrwyddo ei hun fwyfwy fel canolfan ar gyfer cynnal gwyl. Mae yna wyl Gomedi, digwyddiad beicio Enduro, gwyl beiciau modur Machynlleth, gwyl Cerddoriaeth Glasurol a nifer o wyliau eraill sy’n cael eu cynnal gan ddenu nifer fawr o ymwelwyr â’r ardal.

Mae Dyffryn Dyfi a Machynlleth yn datblygu hunaniaeth fel man i ddenu gwyliau beicio. Mae hyn yn cyd-fynd â ffocws Llywodraeth Cymru ar gynyddu darpariaeth nwyddau cyhoeddus dy’n deillio o adnoddau naturiol. Bydd y prosiect yma’n hepu i frandio Machynlleth fel tref ar gyfer cerdded, beicio a dathlu gwyliau.

Byddai’r byncws yn ganolfan ar gyfer y cynlluniau i ehangu’r maes parcio gorllewinol sy’n perthyn i’r cyngor, gan ddarparu mannau caled i barcio cerbydau gwersylla a faniau gwyliau, pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan a chyfleoedd gwersylla yn y cae cyfagos, sydd hefyd yn perthyn i’r dref. Gallai’r cae ddarparu ar gyfer gwyliau hefyd.

Pan fydd yr adeilad wedi’i adnewyddu, bwriad y prosiect yw darparu cyflogaeth a chynllun cyflogaeth warchodol ar gyfer aelodau o’r gymuned sydd ag anawsterau addysgol a chorfforol, gan eu hannog i ennill cymwysteru sylfaenol ym maes lletygarwch a rheoli gwesty. Hoffem ni hefyd gynnig y cyfle i rai sydd am ddarparu cyfleuster llogi beiciau, gan gynnwys beiciau wedi’u haddasu ar gyfer dinasyddion ag anawsterau corfforol. Mae’r prosiect hefyd yn bwriadu cysylltu â Mach Maethlon, sydd wedi mynegi dymuniad i redeg cyrsiau addysgol yn y byncws a rhedeg eu cynllun blwch llysiau o’r un lle hefyd.

Mae cyfyngiad ar yr amser gan fod yr adeilad wedi bod yn wag am ddeng mlynedd ac ar fin dirywio’n gyflym. 

 

Saesneg yn unig

 

Saesneg yn unig

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£16625.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Powys
Cwblhau:
Thema:
2
Mesur:
19.2
The Old Stables

Cyswllt:

Enw:
Louise Nicholson
Rhif Ffôn:
01597826721
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts