Woodland and forestry

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd 27 o safleoedd coetir yn ymuno â rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd 15 ohonynt y cyntaf i ymuno â'r rhwydwaith ers i'r Cynllun Statws Coedwig Cenedlaethol gael ei lansio ym mis Mehefin, sydd wedi galluogi ystod ehangach o goetiroedd i ddod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol. Gallai'r rhain fod yn goetiroedd trefol neu gymunedol bach, tir preifat neu ffermydd, neu ardaloedd mawr o dir sy'n eiddo i awdurdodau lleol, elusennau neu goetir sy'n cynhyrchu pren.

Mae'r 15 safle i gyd bron yn 800 hectar, sy'n amrywio o ran maint o Ardd Furiog Erlas yn Wrecsam i goetiroedd mwy, fel Coed Gwent yn y De-ddwyrain.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cynnig 12 ardal o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru a fydd yn ymuno â'r rhwydwaith, gan ychwanegu bron i 24,000 hectar. Mae'r rhain yn ymuno â'r 14 safle sydd eisoes yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol.

Yn 2020, cyhoeddodd y Prif Weinidog gynlluniau ar gyfer Coedwig Genedlaethol Cymru, i greu ardaloedd o goetir newydd a helpu i adfer a chynnal rhai o goetiroedd hynafol Cymru.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:

Rwy'n falch iawn o weld faint o gymunedau sy'n cymryd rhan yn y Goedwig Genedlaethol. Bydd yr ehangiad yn cyfrannu at greu coetir parhaus sy'n ymestyn o'r Gogledd i'r De, o'r Gorllewin i'r Dwyrain, gan greu budd hirdymor o ran yr amgylchedd, iechyd a llesiant ym mhob cwr o Gymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn creu ased parhaol, tebyg i'n Llwybr Arfordir Cymru, sy'n darparu llawer o fudd, nid yn unig i'n poblogaeth heddiw, ond am genedlaethau i ddod.

Llongyfarchiadau i'r coetiroedd newydd ar ddod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol a'n helpu i gyflawni'r uchelgais bwysig hon a fydd yn newid tirwedd Cymru er gwell.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

Wrth i Goedwig Genedlaethol Cymru ehangu, felly hefyd ei rhwydwaith a'i chymuned. Mae cael statws fel Coedwig Genedlaethol yn cydnabod y gwaith caled mae cymaint o bobl a sefydliadau, gan gynnwys llawer o wirfoddolwyr, wedi buddsoddi mewn creu mannau coetir rhagorol.

Rwy'n falch o groesawu'r coetiroedd newydd i'r Goedwig Genedlaethol, a fydd yn helpu i gefnogi bioamrywiaeth a brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, gan greu cyfleoedd go iawn i bobl yng Nghymru ymwneud unwaith eto â choed, coetiroedd a natur.

Dywedodd Dominic Driver, Pennaeth Stiwardiaeth Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae'r angen i gynorthwyo adferiad natur yn fater brys ac mae creu a gwella coetiroedd yn un o'r pethau gorau y gallwn ei wneud yng Nghymru i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Bydd Coedwig Genedlaethol Cymru yn chwarae rhan bwysig wrth gyfrannu at yr ymateb hwnnw, mewn ffordd sy'n gweithio i bobl a natur.

Rydym yn falch iawn o allu gweithio gyda chynlluniau Llywodraeth Cymru a helpu i’w cefnogi, a chwarae ein rhan i helpu i greu'r Goedwig Genedlaethol yng Nghymru. Rydym wrth ein bodd bod 12 yn rhagor o'n coedwigoedd a'n coetiroedd wedi'u cyhoeddi heddiw fel rhan o'r safleoedd a fydd yn ymuno â rhwydwaith cynyddol Coedwig Genedlaethol Cymru.

Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn perthyn i ni i gyd ac rydym yn annog perchnogion coetir i siarad â'n tîm ymroddedig o swyddogion cyswllt a fydd yn gallu cynnig cefnogaeth ac arweiniad gwerthfawr.