Nature and Us

Bu mwy na 300 o blant yn mwynhau taith i ddigwyddiad clodfawr Defaid Cymru 2023 yng Nghanolbarth Cymru ddoe i weld sut y mae ffermwyr yn gallu gweithio gyda natur, diolch i grŵp ffermio yn nalgylch Afon Hafren uchaf.

Galluogwyd ymweliadau ysgolion lleol â Fferm Red House yn Aberhafesb – cartref Huw, Sioned a Dafydd Owen – gan y prosiect “Natur a Ni” y mae Grŵp Maesmawr o ffermwyr yn ei reoli. Hugh a Sioned ydy ysgrifenyddion y Grŵp.

Ariannodd y Grŵp bentref Tirweddau i blant yn nigwyddiad y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol, a welodd ryw 3,000 o bobl yn mynychu, yn ogystal â’r gweithdai a gynigiwyd ar eu stondin eu hunain a oedd yn dwyn sylw at natur a chamau gweithredu amgylcheddol sy’n cael eu cymryd trwy gydweithredu rhwng ffermwyr, Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid eraill. 

Cafodd plant o ysgolion y Drenewydd, Aber-miwl, Tregynon, Trefeglwys a Llandinam eu tywys o amgylch y fferm a chynigiwyd sesiynau natur iddyn nhw weld infertebratau a oedd wedi’u casglu o Afon Hafren y diwrnod hwnnw, i weld a oedd yr afon yn cael sgôr afon iach – fe lwyddodd – a chlywed am eu pwysigrwydd yn y gadwyn fwyd yn ogystal â dysgu am ystlumod ac adar.

Sylw un athro oedd: “Rydyn ni’n croesawu’r cyllid i ddod yma a mynychu’r gweithdai lle mae’r plant wedi dysgu cymaint am natur a phwysigrwydd y creaduriaid bychain hyn mewn creu a chefnogi’r gadwyn fwyd. I fwyafrif y disgyblion, dyma’r tro cyntaf y maen nhw erioed wedi ymweld â fferm a gweld lle y mae ein bwyd yn dod ohono.”

Meddai Cadeirydd Grŵp Maesmawr, Roche Davies: “Rydyn ni’n hapus ein bod wedi helpu’r genhedlaeth nesaf i ddysgu am bwysigrwydd ffermio a diogelu’r byd naturiol sy’n ein cynnal ni i gyd.” 

Mae amrywiaeth o weithgareddau’n digwydd yng nghyfnod dwy flynedd cychwynnol y prosiect i wella cynefinoedd, darparu gwell mynediad i gefn gwlad er mwyn i bobl gael buddion glas a gwyrdd – iechyd corfforol a meddyliol – yn ogystal â hybu amrywiaeth o dechnegau rheoli tir yn gynaliadwy.

Mae’r Grŵp wedi uwchraddio milltiroedd o lwybrau ceffylau a llwybrau troed, wedi plannu coed a gwrychoedd yn ogystal â dysgu oddi wrth arbenigwyr ym maes gwyddoniaeth a’r byd naturiol fel rhan o brosiect “Natur a Ni – Gweithio Gyda’n Gilydd” www.natureandpeople.wales/cy ac mae’n aelod o Bartneriaeth Natur Powys. 

Grŵp Maesmawr yw’r partner arweiniol wrth gyflawni’r prosiect sydd wedi derbyn cymorth ariannol trwy Gynllun Rheoli Cynaliadwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.