Defaid

Mae Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi penodiad pedwar cyfarwyddwr newydd i Fwrdd Hybu Cig Cymru (HCC), y corff ardoll statudol sy’n gyfrifol am hyrwyddo a datblygu’r sectorau cig oen, eidion a phorc.

Mae Caroline Sanger-Davies yn weithiwraig marchnata proffesiynol gyda dros 30 mlynedd o brofiad. Mae ei gyrfa yn cynnwys rolau gyda digwyddiadau mawr ac atyniadau ymwelwyr yn ogystal â chynghori nifer o siopau fferm a pharciau fferm ar draws y DU. Yn wreiddiol o deulu ffermio, mae Caroline yn byw yn Sir y Fflint.

Mae'r Athro Mike Humphreys yn arbenigwr blaenllaw mewn ymchwil tir glas. Mae e wedi cyhoeddi’n helaeth yn y maes, ac mae ei ymchwil arloesol wedi canolbwyntio ar drosglwyddo canlyniadau i’r byd go iawn, megis datblygu mathau o laswellt sy’n gynhyrchiol ac yn ddeallus o ran yr hinsawdd, gan helpu gydag ymwrthedd i sychder, iechyd y pridd ac atafaelu carbon.

Mae Hugh Hesketh Evans OBE yn ffermio defaid a gwartheg ym Mryndy, Llanelidan mewn partneriaeth â'i wraig. Mae’n gyn-arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, yn ogystal â gwasanaethu mewn rolau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Bwrdd S4C a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

Dechreuodd y merch fferm, Vicki Spencer-Francis, ei gyrfa mewn cysylltiadau cyhoeddus a marchnata yn Llundain, gan lansio rhai o sioeau teledu a sianeli digidol mwyaf adnabyddus Prydain. Symudodd yn ôl i Gymru, gan ymgartrefu yn Sir Fynwy a sefydlu'r asiantaeth amlddisgyblaethol Cowshed Communication.

Mae’r aelodau bwrdd newydd yn cymryd lle tri chydweithiwr profiadol sy’n rhoi’r gorau i’w swyddi ar ddiwedd eu cyfnod – Huw Davies, Claire Williams a Melody Chapman.

Mae'r Gweinidog hefyd wedi ailbenodi John Davies a Gareth Davies am drydydd tymor i'r Bwrdd a Prys Morgan a Rhys Davies am ail dymor i'r Bwrdd.

Bydd pob penodiad yn para rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2026.

Rôl y Bwrdd yw darparu arweinyddiaeth effeithiol, diffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion heriol, hybu safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus, a chynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am fonitro perfformiad HCC, gan sicrhau ei fod yn cyrraedd y nodau, yr amcanion a'r targedau perfformiad a nodir yn y cynlluniau corfforaethol a busnes.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Llongyfarchiadau i Caroline Sanger-Davies, Mike Humphreys, Hugh Hesketh Evans a Vicki-Spencer Francis ar gael eu penodi i Fwrdd Hybu Cig Cymru. Bydd eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn bwysig i waith HCC yn cyflawni ar gyfer y sector cig coch yng Nghymru, megis gwella marchnata, gwneud y gadwyn gyflenwi yn fwy effeithlon a hybu mwy o gynaliadwyedd.

"Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi fod John Davies a Gareth Davies wedi cael eu hailbenodi am drydydd tymor i’r Bwrdd a Prys Morgan a Rhys Davies am ail dymor.

"Hoffwn ddiolch i Huw Davies, Claire Williams a Melody Chapman am eu cyfraniadau gwerthfawr pan oeddynt ar y Bwrdd, yn enwedig drwy gyfnod heriol ofnadwy y pandemig COVID-19. Bu'r ddau yn allweddol o ran cyfnerthu HCC, a dymunaf yn dda iddynt ar gyfer y dyfodol.

"Mae gan y sefydliad ran hanfodol i'w chwarae er mwyn sicrhau bod Cymru’n manteisio ar y cyfleoedd sydd o’i blaen, a bydd y sgiliau sydd gan aelodau newydd y bwrdd yn ei helpu i barhau i wneud hynny."

Dywedodd Cadeirydd HCC Catherine Smith,

“Hoffwn ddiolch i Huw, Claire a Melody am eu hymrwymiad a’u cyngor doeth yn ystod eu cyfnod fel cyfarwyddwyr anweithredol ar Fwrdd HCC. Maent wedi helpu’r sefydliad i oroesi cyfnod o heriau a newid, ac wedi cyfrannu’n fawr at sefydlu gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer dyfodol sector cig coch Cymru.

Ychwanegodd, “Rwy’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â’n haelodau bwrdd newydd. Maent yn dod â llawer iawn o wybodaeth a phrofiad, mewn meysydd allweddol megis marchnata strategol a chynaliadwyedd, gan ategu’r sgiliau sydd gennym eisoes ar y Bwrdd.”