Three seed mixers incorporated with a mycorrhizal fungi and rhizobacteria product

Mae fferm ucheldir yng Nghymru yn tyfu codlysiau a pherlysiau â gwreiddiau dwfn ac yn ymgorffori ffyngau sy’n datgloi maetholion wrth hadu er mwyn ceisio gwella ei allu i fod yn oddefgar i sychder a gwella’r gallu i wrthsefyll hafau sych.

Mae'r teulu Griffiths yn cynhyrchu bîff, cig oen a grawnfwydydd ar Fferm Cilthrew, un o ffermydd ‘Ein Ffermydd’, Cyswllt Ffermio yn Llansantffraid, Gogledd Sir Drefaldwyn.

Mae gan y fferm briddoedd bas dros graig ac mae cyfres o hafau sych wedi rhoi pwysau ar bori, gydag un cae o hen borfa barhaol yn cynhyrchu ychydig iawn o laswellt o fis Mehefin ymlaen.

Fel un o brosiectau ‘Ein Ffermydd’, mae’r cae 3.2 hectar hwnnw bellach wedi’i ail-hadu â chwe chymysgedd o hadau gwahanol, rhai’n cynnwys ystod amrywiol o rywogaethau megis rhonwellt, byswellt, peiswellt tal, llyriad ac ysgellog, ac un arall yn cynnwys rhygwellt parhaol, meillion a rhonwellt yn unig.

Mae strwythurau gwreiddiau amrywiol y perlysiau a'r codlysiau yn helpu i dreiddio i'r pridd, gan ei wneud yn fwy goddefgar i sychder wrth wella gweithgaredd microbaidd.

Cafodd y cae ei drin yn uniongyrchol yng nghanol mis Medi; roedd tri o'r cymysgeddau o hadau yn cynnwys cynnyrch ffyngau mycorhisol a rhizobacteria.

Mae gan ffyngau mycorhisol berthynas symbiotig â gwreiddiau planhigion, gan dynnu maetholion mwynau a dŵr o'r pridd yn gyfnewid am gyfansoddion carbon organig o'r planhigyn, tra bod rhizobacteria yn cynyddu hydoddedd maetholion ar gyfer planhigion, yn sefydlogi nitrogen o'r aer ac yn cynyddu ffosfforws sydd ar gael yn y pridd.

Mae Marc Griffiths, sy’n ffermio gyda’i rieni, Wynn a Bethan, yng Nghilthrew, yn gobeithio y bydd y gwndwn yn darparu porthiant i ddiadell y fferm o 530 o famogiaid a 110 o wartheg bîff o wartheg llaeth yn y misoedd pan nad oedd wedi cynhyrchu fawr ddim fel rhywogaethau sy’n tyfu gyda strwythurau gwreiddio gwahanol yn gwella gallu planhigion i dynnu lleithder.

“Mae cyfnodau hir o dywydd sych wedi gwneud i ni edrych yn wahanol ar sut rydym ni'n gwneud pethau,''

Meddai Marc.

“Rydym yn ddiolchgar i Cyswllt Ffermio am y cyfle i ymchwilio i ba gymysgedd hadau sy’n perfformio orau. Os bydd y canlyniadau'n ffafriol byddwn yn sicr yn edrych ar dyfu mwy o'r rhain ar draws y fferm i gynyddu cynaliadwyedd wrth symud ymlaen.''

Mae’r prosiect yn cael ei oruchwylio gan Owain Pugh, swyddog sector cig coch Cyswllt Ffermio ar gyfer canolbarth Cymru.

“Bydd yn ddiddorol gweld sut fydd y gwndwn yn perfformio, yn benodol o ran ychwanegu’r micro-organebau buddiol wrth i’r diwydiant wynebu pwysau cynyddol i leihau’r defnydd o wrtaith artiffisial a lleihau ôl troed carbon y fferm gyfan,”

Meddai.

“Rydym yn gobeithio dangos y bydd gwella arwynebedd y gwraidd yn galluogi’r gwndwn i amsugno dŵr a maetholion yn fwy effeithlon.”

Bydd y canlyniadau’n cael eu dosbarthu i’r diwydiant ehangach yn 2024, gan gynnwys mewn diwrnod agored ar Fferm Cilthrew.