Alien Bin

Efallai bod trigolion wedi sylwi ar ymwelwyr newydd sydd wedi glanio ym Mhorthcawl yn ddiweddar er mwyn ceisio cadw'r ardal yn lân ac yn daclus.

Ar y cyd â Cadwch Gymru'n Daclus, mae'r pum bin pŵer solar wedi'u gorchuddio ac wedi'u lleoli ledled Porthcawl:

  1. Parc Griffin
  2. Promenâd y Dwyrain
  3. Y Promenâd
  4. Bae Rest
  5. West Drive

Rhagwelir y bydd y newydd wedd yn annog trigolion ac ymwelwyr i ddefnyddio'r biniau er mwyn gwneud yn siŵr nad yw sbwriel yn ymyrryd ar y fwrdeistref sirol. 

Dywedodd Pam Bacon, Rheolwr Rhanbarth Canolbarth y Gorllewin Cadwch Gymru'n Daclus: "Rydym yn falch bod pum bin solar, estron, newydd wedi symud i Borthcawl, dyma ffordd newydd o annog pawb i ailgylchu yn y ffordd gywir. 

"Rydym wedi cael ychydig o hwyl gyda'r treial hwn, ac wedi ceisio meddwl am rywbeth ychydig yn wahanol a fydd yn cipio sylw pawb, gobeithio. 

"Rydym wir yn gobeithio y byddant yn annog pobl o bob oedran i wneud y peth cywir."

Oherwydd bod y biniau wedi'u pweru ag ynni solar, bydd swyddogion strydoedd glanach yn cael gwybod pan fyddant bron yn llawn, er mwyn eu gwagio'n rheolaidd. 

Mae camau gorfodi eisoes ar waith er mwyn ceisio mynd i'r afael â sbwriel, ac os cewch eich dal yn gollwng sbwriel mewn man cyhoeddus, gallech gael Hysbysiad Cosb Benodedig gwerth £100 dan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick: "Mae newydd wedd y biniau pŵer solar hyn yn fenter wych i annog pobl i gael gwared ar eu sbwriel ac ailgylchu yn y ffordd gywir. 

"Rwy'n gobeithio y bydd trigolion ac ymwelwyr yn manteisio ar y biniau ar hyd glan y môr ac mewn lleoliadau allweddol ledled Porthcawl, er mwyn helpu i gadw'r dref yn lle glân a braf."

Mae pum ysgol gynradd leol hefyd yn cymryd rhan yn y fenter hwyliog, a byddant yn treulio amser yn meddwl am enwau astronomegol ar gyfer yr ymwelwyr diweddar, er mwyn eu helpu i deimlo'n fwy cartrefol. 

Caiff yr enwau buddugol eu dewis gan Faer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Martyn Jones, ac yn cael eu hychwanegu at bob bin ochr yn ochr â'r ysgol a feddyliodd am yr enw. 

Ariennir y fenter drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.