Prosiect Gwlan

 

Mae Arloesi Gwynedd Wledig, prosiect gan Menter Môn, wedi lansio cynllun peilot arloesol sy’n canolbwyntio ar fridio defaid amlbwrpas newydd i geisio gwella ansawdd gwlân.

Nod ‘Defaid Amlbwrpas’ yn gwella ansawdd gwlân Cymreig a gynhyrchir ar ffermydd yng Ngwynedd, heb gyfaddawdu ar ansawdd a chynhyrchiant cig oen.

Mewnforiwyd had maharen Merino o’r enw Charlie y llynedd o Awstralia a chafodd ei ddefnyddio i ffrwythloni 60 o ddefaid Romney yn artiffisial ar ddwy fferm yng Ngwynedd.

Betsan Siencyn, Uwch Swyddog Cynlluniau Arloesi Gwynedd Wledig sy’n arwain y cynllun:

“Mae’r cynllun yma'r cyntaf o’i fath yng Nghymru wrth i ni geisio bridio ŵyn sydd ag ansawdd llawer iawn gwell o wlân heb gyfaddawdu ar y cig. Os fydd y cynllun yn llwyddiant, bydd modd rhannu'r canfyddiadau â ffermwyr ar draws y wlad, a dangos ei bod yn bosib ychwanegu gwerth at eu gwlân, a chreu ffynhonnell ychwanegol o incwm iddynt. Mae hyn yn hollbwysig wrth i nifer ohonynt wynebu dyfodol ansicr.”

Darparwyd cefnogaeth ariannol ar gyfer rhaglenni Arloesi Gwynedd Wledig gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear, a Chyngor Gwynedd.

Mae’r ŵyn newydd wedi eu geni dros yr wythnosau diwethaf a nawr mae’r tîm yn mynd ati i’w monitro’n gyson gan ganolbwyntio ar gyfraddau tyfu, nodweddion a samplau gwlân. Bydd y nodweddion hyn hefyd yn cael eu monitro mewn grwpiau rheoli o ddefaid ac ŵyn Mynydd Cymreig i gymharu cynnydd y brîd amlbwrpas â brîd brodorol i ogledd orllewin Cymru.

Mae dwy fferm yng Ngwynedd yn rhan o’r cynllun - Arwel Jones, Fferm Blaen Cwm, Corwen a John a Gillian Williams, Parlla Isaf, Tywyn. Dywedodd y teulu Williams:

“Mae’n gynllun cyffrous iawn, ac mae’n braf iawn bod yn rhan ohono. Os bydd y cynllun hwn yn llwyddiannus, gallwn wedyn sicrhau fod Cymru yn mynd ati i gynhyrchu brîd sydd llawer iawn mwy defnyddiol yn nhermau gwlân a chig, ac o ganlyniad, mae yna siawns i’r diwydiant dderbyn llawer iawn mwy o fuddion.”

Mae'r prosiect wedi deillio o adroddiad a gomisiynwyd gan Arloesi Gwynedd Wledig yn 2019 wrth iddi ddod i’r amlwg fod prisiau gwlân yn isel iawn.

Daeth i'r casgliad bod crefftwyr yn gorfod mewnforio cnu a gwlân o safon uchel gan nad oeddent ar gael yn lleol. Does dim bridiau defaid amlbwrpas yng Nghymru, felly bydd y prosiect yma'n caniatáu i ffermwyr arbrofi a gweld sut allant ychwanegu gwerth i wlân Cymreig.

Prosiect arall gan Menter Môn yw Gwnaed â Gwlân - prosiect sy’n ceisio gwireddu potensial gwlân Cymru. Elen Parry yw rheolwr y prosiect:

“Rydyn ni yma’n gobeithio’n fawr y bydd y cynllun yma’n llwyddiant aruthrol. Bydd yn golygu fod ffermwyr Cymreig yn gallu cynhyrchu ŵyn sydd â safon gwlân llawer iawn uwch, bydd hynny yn ei dro yn cynyddu nifer y defnyddiau terfynol posib y gellir ei gynhyrchu o wlân, gan obeithio y bydd hefyd yn cynyddu’r galw a’r pris. Prif nod hyn

fydd i gynyddu'r pris y mae'r ffermwyr yn ei gael am eu gwlân. Mae’n gyfnod eithaf pryderus i’r diwydiant gwlân yng Nghymru, a dyna beth yw sail ein prosiect Gwnaed â Gwlân. Drwy ddatblygu cynlluniau fel yr un yma efo bridio defaid amlbwrpas, mae’n mynd i alluogi fod yr ymchwil berthnasol yn cael ei wneud a bod yn sicrhau dyfodol i’r diwydiant pwysig yma yng Nghymru heb amharu ar y diwydiant cig sydd mor llwyddiannus yma yn barod.”

 

Dilynwch ddatblygiadau’r prosiect ar gyfrifon Twitter, Instagam or Facebook Arloesi Gwynedd Wledig.

ASEDAU AR GAEL YMA

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â llinos.williams@alaw.cymru / 07891914992