Brilliant Basics grant

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi lansio cronfa dwristiaeth Y Pethau Pwysig gwerth £5 miliwn ar gyfer 2023 i 2025.

Mae Y Pethau Pwysig yn gronfa gyfalaf i gyflawni gwelliannau seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ar draws Cymru ac mae wedi'i anelu at sefydliadau cyhoeddus, trydydd sector ac nid er elw.

Mae prosiectau blaenorol a ariannwyd gan Y Pethau Pwysig wedi cynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan, gwell cyfleusterau toiledau ac i geir, cyfleusterau Changing Places hygyrch a gwell arwyddion a phaneli dehongli.

Bydd Y Pethau Pwysig hefyd yn cefnogi prosiectau sy'n gwella hygyrchedd mewn safleoedd a'r rhai sy'n gwneud eu cyrchfannau'n fwy amgylcheddol gynaliadwy.

2023 yw Blwyddyn Llwybrau Cymru sy'n rhoi cyfle i'r sector twristiaeth arddangos atyniadau, tirweddau ac arfordir drwy ffyrdd a llwybrau. Bydd Y Pethau Pwysig yn annog Awdurdodau Lleol a Pharciau Cenedlaethol i ystyried y profiad cyfan i ymwelwyr a'r seilwaith hanfodol sy'n gwneud profiad llwybr yn gyflawn, o lwybrau, i barcio i sicrhau bod cyfleusterau'n hygyrch i bawb.     

Ar ei hymweliad cyntaf ers cymryd cyfrifoldeb am bolisi Twristiaeth o fewn Llywodraeth Cymru, ymwelodd y Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden â Pharc Gwledig Cosmeston sydd wedi derbyn cyllid Y Pethau Pwysig yn y gorffennol.  Derbyniodd Bro Morgannwg £122,124 yn ystod y rownd gyntaf Y Pethau Pwysig 2021 i 2022 i ddatblygu'r prosiect Porth Ymwelwyr sy'n gwella mynediad a llwybrau at Lyn Cosmeston a’r lanfa, gan gynnwys ychwanegu seddi a lloches, mynediad newydd i'r ffordd a mynedfa ac ailgodi'r lanfa a'r llithrfa.

Prosiect Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru oedd y catalydd i wella mwy ar y safle ym Mro Morgannwg gan gynnwys ardal chwarae newydd, safle ar gyfer stondinau, tŷ crwn a chyfleusterau dysgu, a brandio, dehongli ac arwyddion newydd drwyddi draw.

Ers cwblhau'r prosiect mae'r parc wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac mae ei ychwanegiadau newydd wedi profi'n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden:

Mae'r prosiectau a gefnogir trwy'r gronfa Y Pethau Pwysig yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Ar gyfer y rownd ariannu hon, rydym yn chwilio am gynigion sy'n ychwanegu gwerth at brofiad yr ymwelwyr ac sy'n helpu i adeiladu cyrchfan o ansawdd.

Mae gan amwynderau twristiaeth lleol ran fawr i'w chwarae wrth wneud taith yn un cofiadwy. Yn aml iawn, nid pobl yn sylwi ar y cyfleusterau hyn, ond mae nhw'n rhan bwysig o brofiad ymwelwyr a hefyd o fudd i'r rhai sy'n byw yn yr ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:

Mae'r Cyngor yn falch iawn o'i barciau gwledig, sy'n cynnig cyfle i drigolion ac ymwelwyr fwynhau gofod awyr agored mawr ac amrywiol.

Mae amrywiaeth o nodweddion i'w mwynhau yn Cosmeston, gan gynnwys bywyd gwyllt a mannau agored amrywiol, ardaloedd picnic ac ardal chwarae newydd sbon. 

Mae'r arian yma wedi ein galluogi i wella'r parc ymhellach drwy'r Prosiect Porth Ymwelwyr. Mae hynny wedi gweld llwybrau mynediad yn cael eu huwchraddio a chyfleusterau newydd yn cael eu hychwanegu neu eu hadnewyddu ar hyd a lled y safle.

Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yw 16 Mawrth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am Cyllid: Busnes Cymru.