Milking parlour at Mountjoy Haverfordwest

Gall addasiadau syml fel gosod clociau amser yn gywir ar wresogyddion dŵr a rhoi deunydd lagio ar bibellau arbed costau ynni mawr i fusnes ffermio llaeth.

Oeri llaeth, gwresogi dŵr a phympiau gwactod sy’n cyfrif am y gyfran fwyaf o ddefnydd ynni ar fferm laeth ac felly’n cynnig y cyfle mwyaf ar gyfer arbedion, meddai’r arbenigwr ynni Chris Brooks.

Yn ystod gweminar Cyswllt Ffermio yn ddiweddar, anogodd ffermwyr llaeth i weithredu neu fentro talu am y trydan y maent yn ei ddefnyddio ond sy’n cael ei wastraffu.

Mae mesurau sylfaenol fel defnyddio switshis amseru, lagio pibellau dŵr poeth ac oer a thanciau dŵr, disodli llifoleuadau sodiwm gyda LEDs effeithlon a sicrhau bod offer fel cyddwysyddion yn lân ac yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda yn gwneud gwahaniaeth mawr, meddai Mr Brooks.

Am bris trydan o £0.37/kWh, mae’r gost flynyddol i fferm laeth maint cyfartalog bellach tua £105 y fuwch. Ar gyfer buches o 250 o fuchod, mae hyn yn gwneud cyfanswm o £46,250 y flwyddyn, cynnydd o £26,250 mewn un flwyddyn.

Mae sectorau eraill, gan gynnwys dofednod, wedi cael eu taro'n galed hefyd. Roedd sied ieir dodwy aml-haen sy’n cynnwys 32,000 o adar gyda galw trydan blynyddol o 2.5kWh/aderyn fel arfer yn talu £0.17/kWh flwyddyn yn ôl ond, ar dariff o £0.40/kWh, mae costau wedi cynyddu i £87.67 y dydd neu £32,000 blwyddyn.

Mae yna gamau y gall pob system eu cymryd i leihau'r defnydd o drydan ac, o ganlyniad, costau hefyd, meddai Mr Brooks.

Awgrymodd fod defnyddio cofnodwyr data, a ddefnyddir i nodi ble mae gwastraff yn digwydd ac a gyflawnir fel arfer dros gyfnod o 7-10 diwrnod, yn fan cychwyn da.

Ar gyfer tanciau dŵr poeth, mae’n argymell cael lagio digonol i atal colli gwres a gosod uned adfer gwres – er bod gan lawer o ffermydd y rhain eisoes, efallai nad ydynt yn gweithio’n iawn felly mae angen gwirio hynny.

Mae Mr Brooks hefyd yn cynghori monitro’r parlwr a’r tymheredd gadael golchiad tanc yn erbyn gofynion y cemegyn llaeth sy’n cael ei ddefnyddio, er mwyn caniatáu ar gyfer gwresogi dŵr i’r gosodiad isaf posibl heb gael effaith negyddol ar hylendid llaeth.

Defnyddiwch oleuadau dim ond pan a lle mae eu hangen ac ar y dwyster sydd ei angen, a dim ond oeri llaeth i’r tymheredd gofynnol – mae rhai ffermydd y mae Mr Brooks wedi’u hasesu yn oeri’n rheolaidd i dymheredd is heb unrhyw reswm penodol ac felly’n defnyddio mwy o drydan nag sydd ei angen arnynt.

“Os oes angen oeri llaeth i 5°C, pam ei oeri i 3.4°C trwy ddefnyddio hanner awr o amser cywasgydd i ostwng y tymheredd yn is na lle mae angen iddo fod?'' meddai.

Ar gyfer contractau cyflenwi ynni, mae'n fuddiol gwybod pryd mae'r dyddiad gorffen er mwyn caniatáu ar gyfer paratoi cynnar. Ystyriwch fesuryddion clyfar hefyd, awgrymodd Mr Brooks, gan fod hyn yn rhoi mynediad i ystod ehangach o dariffau a allai fod yn fwy cystadleuol. 

“Os na chaiff eich mesurydd trydan ei ddarllen o bell gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn anfon darlleniadau mesurydd gwirioneddol at eich cyflenwr bob mis er mwyn osgoi darlleniadau amcangyfrifedig a all weithiau fod yn anghywir iawn,” dywedodd.

Mae buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yn ddatrysiad amlwg i ddiogelu fferm rhag cyfnewidioldeb pris a lleihau costau, ond mae’n bwysig ystyried pa opsiwn sydd fwyaf addas ar gyfer proffil galw’r fferm.

Er enghraifft, mae llawer o ffermydd llaeth yn buddsoddi mewn ynni solar pan fydd cyfran fawr o'u defnydd o ynni yn digwydd cyn codiad yr haul. A phan fydd eu hangen am ynni fwyaf - pan fydd stoc yn cael eu cadw dan do yn y gaeaf - mae golau'r haul yn gyfyngedig.

“Yn flynyddol, mae hyd y dydd a'r tywydd ar y pryd yn golygu bod cynhyrchiant ffotofoltäig solar yn y DU ar ei uchaf ym mis Mehefin ac ar ei isaf ym mis Rhagfyr a mis Ionawr,” meddai Mr Brooks.

Ar gyfer rhai ffermydd llaeth, mae’n gweithio’n dda – er enghraifft, un sy’n godro deirgwaith y dydd pan fo galw mawr drwy ganol y dydd pan fo’r cynhyrchiant ynni solar dyddiol ar ei uchaf.

Gallai system solar fod yn llai buddiol i uned odro robotig gyda galw cyson 24 awr, meddai Mr Brooks. Ar gyfer y system honno, system solar ffotofoltäig lai o faint fyddai’n darparu'r budd gorau ynghyd â thariff cyflenwi dwy gyfradd neu RAG (Coch Ambr Gwyrdd), dywedodd.

Er bod cwmnïau cyflenwi yn cyfeirio at storio batris fel datrysiad, anogodd Mr Brooks i ffermwyr fod yn ofalus.

“Mae angen llawer o gynllunio ar y dechnoleg i wneud yn siŵr ei bod yn gweithio i chi,” meddai. 

“Mae'n rhaid cynllunio dyluniad unrhyw system, gan gynnwys maint y system solar ffotofoltäig a chapasiti'r batris, yn ofalus iawn i sicrhau bod buddion yn cael eu gwireddu o'r buddsoddiad yn yr haf a'r gaeaf.''

Rhoddodd Mr Brooks yr enghraifft o fferm laeth 200 o wartheg yr ymwelodd â hi.

Roedd wedi gosod system solar ffotofoltäig 50kW ar ei sied ciwbicl gyda 10kWh o fatris wedi'u cydleoli, buddsoddiad gwerth £80,000.

“Fe wnaethon nhw ddarganfod bod y cynhwysedd storio batris yn gwbl annigonol a'i fod wedi dadwefru'n llawn o fewn 20 munud i ddechrau'r godro,” meddai Mr Brooks.

“Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwestiynu'n drylwyr yr hyn sy'n cael ei ddweud wrthych gan werthwyr brwdfrydig.''

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.