Pembrokeshire Creamery Ltd 2023

Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro yn sicrhau swyddi a buddsoddiad newydd ym Mharc Bwyd Sir Benfro

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro wedi gwerthu tir i gwmni o Sir Benfro er mwyn datblygu cyfleuster prosesu llaeth newydd yn y sir, fel rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd.

Mae Pembrokeshire Creamery Ltd (PCL) wedi caffael ardal ddatblygu ym Mharc Bwyd Sir Benfro, gan ddod â buddsoddiad o £17 miliwn yn ei sgil a chreu 80 o swyddi newydd dros y tair blynedd nesaf.

Sefydlwyd Parc Bwyd Sir Benfro yn Llwynhelyg, ger Hwlffordd yn 2021, yn dilyn buddsoddiad o £2 filiwn gan Lywodraeth Cymru ac £1 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a ddyfarnwyd i Gyngor Sir Penfro am gyflawni’r cam cyntaf o waith seilwaith yn y parc bwyd. Mae’r ffatri brosesu llaeth newydd hefyd wedi cael cymorth ariannol gan yr Undeb Ewropeaidd drwy’r Gronfa Datblygu Wledig.

Nawr, bydd PCL yn meddiannu 10.25 erw o’r Parc Bwyd yn dilyn ei fuddsoddiad yn y cyfleuster prosesu llaeth newydd, a fydd yn dod o hyd i laeth o ffermydd teuluol lleol a bydd ganddynt gapasiti ii  brosesu 70 miliwn litr yn flynyddol. Mae’r prosiect hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd y sector cyhoeddus yn cydweithio i gyflwyno safleoedd parod am fuddsoddiad ledled Cymru i’w datblygu.

Mae’r cyfleuster prosesu llaeth newydd yn ddatblygiad allweddol yn yr economi leol, gan greu cyflogaeth a hwb sylweddol i’r gadwyn gyflenwi llaeth leol.

Bydd y buddsoddiad hwn yn sbardun allweddol yng nghynllun adfer “COVID-19: Bwyd a Diod Cymru” ac yn ysgogi arloesedd yn y sector.

Bydd gwaith PCL o wella capasiti prosesu yn rhoi sail gryfach i dyfu’r economi yng ngorllewin Cymru.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i greu swyddi o ansawdd i bobl o fewn eu cymunedau eu hunain.

Mae amaethyddiaeth, bwyd a diod yn sectorau sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i economi leol Sir Benfro, ac rydym yn benderfynol o helpu busnesau newydd a busnesau presennol yn y sectorau hyn i dyfu a ffynnu. Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Penfro i sicrhau bod tir ar gael i’w ddatblygu ym Mharc Bwyd Sir Benfro i’n galluogi ni i wireddu’r uchelgais honno.

Felly, rwy’n falch iawn ein bod ni wedi sicrhau’r buddsoddiad sylweddol hwn, a fydd yn creu 80 o swyddi newydd yn lleol dros y tair blynedd nesaf. Bydd hyn yn hwb gwirioneddol i’r economi ranbarthol.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r prosiect newydd cyffrous hwn yn Sir Benfro. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ffermwyr Cymru yn ogystal â’n sector bwyd a diod ac mae’r buddsoddiad ym Mharc Bwyd Sir Benfro yn enghraifft wych arall o sut yr ydym yn gwneud hyn.

Yn dilyn newyddion heddiw, bydd manwethwyr yn cael llaeth o ffermydd lleol, wedi’i botelu yn Llwynhelyg, gan greu cadwyn gyflenwi hirdymor a chynaliadwy ar gyfer defnyddwyr Cymru.

Mae Sir Benfro yn cynhyrchu cynnyrch bwyd a diod gwych, ac rwy’n edrych ymlaen at weld hyn yn parhau i’r dyfodol.

Fe wnaeth y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro ac Aelod  Cabinet Cyngor Sir Penfro gyda chyfrifoldeb dros y Lle, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd, groesawu’r cytundeb yn gynnes, gan ei alw’n newyddion ardderchog i ddiwydiant llaeth y sir.

Dywedodd:

Fel awdurdod lleol, rydym yn falch iawn o groesawu’r buddsoddiad o £17 miliwn gan Pembrokeshire Creamery Ltd. “Mae hwn yn gyfle gwych i ffermwyr llaeth lleol, ac rydym yn falch iawn o fod wedi cefnogi datblygiad llwyddiannus y fenter.

Mae hefyd yn newyddion ardderchog ar gyfer y farchnad swyddi leol, gydag 80 o swyddi newydd yn cael eu creu ym Mharc Bwyd Sir Benfro.

Ychwanegodd y Cynghorydd Miller:

Rydym wedi bod yn falch iawn o weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y cytundeb hwn. Mae ein sir yn adnabyddus am ei chynnyrch o ansawdd uchel ac mae ein gwaith gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ar ddatblygu’r Parc Bwyd yn gam pendant ac arwyddocaol tuag at wireddu ein nod hirsefydlog o gadw mwy o’r gwerth ychwanegol wrth gynhyrchu bwyd lleol.

Dywedodd Mark McQuade, Rheolwr Gyfarwyddwr, Pembrokeshire Creamery Limited:

Mae Pembrokeshire Creamery Limited yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth gyda’r buddsoddiad hwn, a fydd yn cyflawni swyddi a thwf sylweddol i’r economi leol. Y safle newydd fydd yr unig gyfleuster ardystiedig gan Gonsortiwm Manwerthu Prydain i gynnig llaeth o Gymru sydd hefyd wedi’i botelu yng Nghymru, ac oherwydd hynny, bydd yr Hufenfa yn byrhau’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru. Mae Sir Benfro yn faes llaeth gwych i adeiladu cyflenwad llaeth Cymreig dilys ar gyfer archfarchnadoedd Cymru.