Aled Thomas

Mae Menter Moch Cymru wedi bod yn gatalydd i fenter newydd i besgi 1000 o foch yn Sir Benfro.

Dywed Aled Thomas na fyddai ei deulu’n debygol o fod wedi arallgyfeirio i gynhyrchu moch heb gyngor, arweiniad a chefnogaeth Menter Moch Cymru, sy'n darparu hyfforddiant, cymorth ac adnoddau gwybodaeth am ddim i rai sy’n cadw moch yng Nghymru.

"Dw i ddim yn meddwl y bydden ni wedi mentro heb Menter Moch Cymru oherwydd byddai wedi bod yn ormod,'' cyfaddefa Aled, sy'n ffermio'r 120 hectar ar ei fferm gymysg gyda'i dad, Ken, a'i frawd hŷn, Rhydian.

Yr hyn y maent wedi'i greu yw'r busnes pesgi moch masnachol mwyaf yn Sir Benfro.

Dechreuodd y fenter am fod Aled a Rhydian eisiau ffermio ond oherwydd maint y busnes presennol, gyda gwartheg sugno, tir âr a thatws, doedd hynny’n ddim yn bosibl. 

Roedd Aled wedi cael gwybodaeth am ffermio moch wrth astudio ar gyfer ei radd mewn amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Harper Adams ac roedd y teulu wedi trafod hyn fel opsiwn ar gyfer ehangu.

Aethant i ddigwyddiad ar sefydlu menter moch a gynhaliwyd gan Menter Moch Cymru yn Sir Benfro.

"Doedden ni ddim eisiau mynd i gadw moch heb y wybodaeth bwysig, i adeiladu sied heb wybod sut i wneud, felly aethon ni draw i’r digwyddiad,'' mae Aled yn cofio.

"Fe wnaeth y cyfarfod hwnnw ein hysbrydoli ni'n fawr a gwneud i ni fod eisiau edrych ar y syniad yn fanylach.''

Daeth cynghorydd o Menter Moch Cymru draw i’w fferm, Hill Leys, ym Mhorth Portfield, ger Hwlffordd.

"Treuliodd amser hir ar y fferm a'n rhoi ar y trywydd cywir - at yr unigolion hynny oedd yn gallu trafod cysylltiadau, syniadau dylunio sied, gwaith costio, y peryglon i'w hosgoi, a manylion am y diwydiant nad oeddech efallai'n ymwybodol ohonynt fel rhywun o'r tu allan, a threfnodd i ni fynd i weld unedau oedd wedi'u codi,'' esbonia Aled.

Buddsoddodd y teulu £220,000 mewn adeilad oedd â lle i gadw 1,000 o foch mewn system yn seiliedig ar wellt, gyda’r moch ar gyfartaledd yn 35kg gan eu pesgi i bwysau byw o tua 110kg.

Daeth y moch cyntaf yma ym mis Awst 2021 ac maent yn anelu at tua 3.5 cylch y flwyddyn.

Maent yn prynu'r perchyll Landrace gwyn gan Pilgrims UK, un o'r cwmnïau pecynnu cig mwyaf yn y byd, a hefyd ar ôl pesgi’r moch fe’u gwerthir iddynt ar gontract.

Mae'r moch wedi’u hardystio i safon y Tractor Coch a Freedom Foods. "Cawsom gymorth gan Menter Moch Cymru i wneud yr archwiliadau, oedd yn ddefnyddiol iawn,'' meddai Aled. "Roeddent hefyd yn cynnig canllawiau gan roi cyngor ar brotocolau fel dipio traed.''

Roedd cefnogaeth hefyd i lunio cynllun iechyd ar gyfer y genfaint. Drwy'r cynllun hwn gan Fenter Moch Cymru, llwyddodd y teulu Thomas i gael gafael ar 80% o gyllid tuag at gynllun iechyd cychwynnol y genfaint, ac yna cefnogaeth bellach i gynnal adolygiad yn y blynyddoedd yn dilyn.

Dywed Aled fod y pecyn cymorth wedi gwneud byd o wahaniaeth - rhwng bod y teulu’n dechrau'r busnes newydd, ai peidio.

"Un o'r pethau mwyaf gwerthfawr yw'r cysylltiadau, rwy'n credu nad yw pobl yn sylweddoli gwerth cael cysylltiadau i helpu busnes yn gyffredinol.

"Mae Menter Moch Cymru bob amser ar ben y ffôn pan fydd angen help arnom ac os nad ydyn nhw’n gallu helpu, maen nhw’n adnabod rhywun sy'n gallu.''

Mae Aled yn rhannu ei amser rhwng y busnes a'i swydd yn Llundain lle mae’n ysgrifennu adroddiadau ar y farchnad reis fyd-eang yn ogystal â'i benodiad newydd fel cynghorydd sir.

"Pe na fyddem wedi arallgyfeirio i gadw moch, byddwn o bosibl yn byw ac yn gweithio'n llawn amser yn Llundain ac efallai wedi colli diddordeb mewn amaethyddiaeth, ond yn hytrach gallaf wneud bywoliaeth o ffermio.''

Ariennir prosiect Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.