Bydd ceidwaid gwartheg ar Ynys Môn yn cael cyngor ychwanegol dros y diwrnodau nesaf i helpu i gadw nifer yr achosion o TB ar yr ynys yn isel.

Ar gyfer y flwyddyn hyd at 30 Medi 2022, mae data gwyliadwriaeth yn dangos mai nifer cyfartalog yr achosion agored ar ddiwedd pob chwarter oedd 6. Roedd hyn yn cymharu â 5.5 ar gyfer y flwyddyn flaenorol a 3.25 ar gyfer 2017.

Er bod y ffigurau hyn yn parhau yn galonogol o isel, o’u cymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru, mae’r cynnydd diweddar yn nifer yr achosion mewn buchesi a mynychder mewn buchesi yn peri pryder, ynghyd â chynnydd yng nghyfraddau’r clefyd a gadarnhawyd a nifer y gwartheg sy’n cael eu difa i reoli TB.

Mae'r tueddiadau cynnar hyn yn awgrymu y gallai hon fod yn ardal arall sydd â TB yn dod i'r amlwg, yn dilyn o glystyrau sydd bellach wedi'u sefydlu yng nghefn gwlad Wrecsam ac yn fwy diweddar yn Sir Ddinbych a Dyffryn Conwy.

I fod ar flaen y gad o safbwynt y clefyd ar Ynys Môn ac i warchod yr ardaloedd ehangach lle mae nifer yr achosion yn llai yng Ngogledd Cymru, mae mesurau ychwanegol i reoli’r clefyd yn cael eu hystyried a'u datblygu.

Tra bo’r mesurau hyn yn cael eu datblygu, gofynnir i ffermwyr wneud y canlynol i helpu i warchod eu buches:

  • Os oes angen i chi brynu gwartheg, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall statws TB a hanes y fuches a'r ardal rydych chi'n ei phrynu ohoni. Byddwch yn ymwybodol o brofion TB a hanes symud anifeiliaid unigol. Mae ibTB (www.ibtb.co.uk) yn offeryn mapio rhyngweithiol ar-lein defnyddiol a sefydlwyd i helpu ffermwyr gwartheg a'u milfeddygon i ddeall lefel TB gwartheg yn eu hardal a rheoli'r risgiau wrth brynu gwartheg.
  • Os ydych chi'n dod â gwartheg i'ch buches, gwnewch yn siŵr eu bod wedi'u hynysu wrth aros am brofion ar ôl symud (os yw'n berthnasol).
  • Sicrhewch fod eich buches yn cael ei gwarchod rhag clefydau drwy roi safonau uchel o fioddiogelwch ar waith. Bydd eich milfeddyg preifat yn gallu eich cynghori ar fesurau y gallwch eu rhoi ar waith i warchod eich buches.
  • Os oes gan eich buches achos o TB, cymerwch yr ymweliad milfeddygol Cymorth TB am ddim a gynigir i chi. Bydd hyn yn eich cefnogi drwy roi gwybodaeth ymarferol i’ch helpu i gael gwared â TB oddi ar eich buches cyn gynted â phosibl.

Ni nodwyd unrhyw foch daear sydd wedi cael prawf TB positif fel rhan o'r Arolwg o Foch Daear Marw ar yr ynys.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

Bydd pob ffermwr gwartheg ar Ynys Môn yn cael llythyr dros yr wythnos nesaf yn eu cynghori ar y mesurau y gallant eu cymryd nawr i warchod eu buches. Mae'r niferoedd yn galonogol o isel o'u cymharu â rhannau eraill o Gymru, ond rydym yn gweithredu nawr i'w cadw felly wrth i ffigyrau ddangos cynnydd mewn achosion o'r clefyd.

Cliciwch yma am rhagor o wybodaeth ac cyngor yng nghlyn a TB gwartheg.