Kyle Holford and Lauren Smith

Ariennir prosiect Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae cynhyrchydd moch yn amcangyfrif bod ei genfaint o 25 hwch yn cynhyrchu 150 o foch bach yn ychwanegol y flwyddyn, cynnydd o dros 37% mewn perfformiad, o ganlyniad uniongyrchol i wybodaeth a gafodd ar fridio ac iechyd anifeiliaid drwy hyfforddiant Menter Moch Cymru.

Mae perfformiad cenfaint Kyle Holford a Lauren Smith o hychod Large Black x Duroc yn yr 20% uchaf ar gyfer cenfaint yn yr awyr agored, sy'n fwy arbennig gan eu bod yn cadw brîd prin o foch croes.

"Drwy'r hyfforddiant a gawsom gan Menter Moch Cymru, yn benodol ynglŷn ag amseriad y paru, cyflwr corff yr hwch, rheoli’r geni a diddyfnu, rydym wedi dod yn llawer mwy effeithlon,'' meddai Kyle. "Rydyn ni’n cynhyrchu tua 150 o foch bach yn ychwanegol y flwyddyn.''

Fel metrig o berfformiad, mae'r busnes yn llwyddo i ddiddyfnu 26 o foch i bob hwch y flwyddyn.

Doedd gan Kyle a Lauren ddim cefndir mewn ffermio pan symudon nhw o Lundain i ger Y Fenni, yn 2014 i sefydlu cenfaint o foch, gan werthu'r cig i deulu a ffrindiau.

Erbyn hyn mae ganddynt 25 o hychod bridio sy'n cynhyrchu tua 550 o foch bach y flwyddyn, gyda'r cig yn cael ei farchnata'n uniongyrchol i siopau cig lleol ac yn Llundain.

Ers i Menter Moch Cymru gael ei lansio yn 2017, mae’r cwpl wedi bod yn manteisio ar y cymorth sydd ar gael. "Rydyn ni wedi elwa cymaint o'r rhaglen; mae wedi ein cefnogi drwy gydol ein taith,'' meddai Kyle.

Mae Kyle a Lauren wedi bod mewn 32 o’r sesiynau hyfforddi, yn amrywio o sesiynau ymarferol ar ddefnyddio ffrwythloni artiffisial i dorri a phrosesu cig. Mae’r hyfforddiant hwnnw wedi bod o fudd mawr gan fod ganddynt uned torri cig ar y fferm.

"Gallaf gyfeirio’n benodol at bob un sgwrs a sut rydym wedi gwella ar hyn a'r agwedd honno ar y busnes o ganlyniad,'' meddai Kyle.

Agorodd eu huned brosesu ar y fferm ym mis Ebrill 2017. "Rydyn ni'n dod â'r carcas cyfan yn ôl ac yn torri’r cig yma. Mae hyn nid yn unig yn arbed costau ond rydyn ni’n gallu cynhyrchu cig o safon yn union sut rydyn ni eisiau,'' esbonia Kyle.

Trwy fanteisio ar raglen Menter Moch Cymru, mae Kyle a Lauren nid yn unig wedi cael gwybodaeth helaeth am gynhyrchu moch ond maent hefyd wedi elwa ar un o’r adnoddau mwyaf gwerthfawr, sef cysylltiadau yn y diwydiant.

"Mae'r gweminarau a'r hyfforddiant wedi ein rhoi mewn cysylltiad ag arbenigwyr, rhai o'r goreuon yn y diwydiant, pobl na fyddem byth wedi gwybod amdanynt oni bai am Menter Moch Cymru,'' meddai Kyle.

Mae Menter Moch Cymru hefyd wedi rhoi'r cwpl mewn cysylltiad â ffermwyr moch lleol, drwy Grŵp Cynhyrchwyr.

"Mae'n braf cael y rhwydwaith hwnnw o ffermwyr yn yr ardal,'' meddai Kyle.

Mae'r cwpl hefyd wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn ymchwil werthfawr.

Dangosodd treialon ymchwil diweddar ar y fferm, a gynhaliwyd gan Menter Moch Cymru a Chyswllt Ffermio, oedd yn ymchwilio i broffil asid brasterog cig moch mewn moch sy’n pori ar borfa amrywiol, gynnydd sylweddol mewn asid Linolenig (ALA).

Mae'n hysbys bod bwyta cynhyrchion sy'n cynnwys ALA o fudd mawr i bobl. Mae’n atal trawiadau ar y galon, yn gostwng pwysedd gwaed uchel a cholesterol ac yn gwrthdroi unrhyw galedu mewn pibellau gwaed. 

Dywed Kyle y gallai'r canlyniadau ganiatáu i'r busnes ychwanegu gwerth drwy gynnig pwynt gwerthu unigryw.

"Roedd yn ddiddorol iawn edrych ar y berthynas rhwng bwydo porthiant moch a'r effaith y mae'n ei gael ar ansawdd cig a braster, ac yn syndod mawr darganfod ei fod yn effeithio ar y braster ac yn arwain at gynnyrch iachach.

"Rydyn ni’n gwybod bod magu moch ar borfa’n arwain at nifer o fanteision o ran ansawdd cig ac mae gallu ei fesur yn wyddonol yn bwysig iawn i mi.''

Yn 2018 enillodd Kyle a Lauren ddwy Wobr Gwir Flas ac yn 2021 roedd yn rownd derfynol categori'r Fenter Farchnata yng Ngwobrau Pig World.

Mae Kyle a Lauren hefyd wedi manteisio ar deithiau astudio Menter Moch Cymru, i Gernyw yn 2018 ac i Ddyfnaint yn gynharach eleni.

"Cawsom ein hysbyrydoli gan y ffermwyr y gwnaethom eu cyfarfod ynglŷn â’r hyn sy'n bosibl a’r ffaith ei bod yn bwysig defnyddio stori'r cynnyrch wrth farchnata. Dylanwadodd hynny ar y rhai oedd yn yr ymweliadau, gan ein hysgogi,'' meddai Kyle.

Hefyd cynhaliodd y fferm ddiwrnod hyfforddi i filfeddygon a drefnwyd gan Menter Moch Cymru - a thrwy hynny llwyddodd Kyle a Lauren i dynnu sylw at broblem gyda niwmonia heintus yn eu cenfaint eu hunain. Cafwyd cyngor gwerthfawr iawn ar sut i'w ddileu.

"Mae'r clefyd yn trosglwyddo o un grŵp i'r llall felly dywedwyd wrthym pe baem yn brechu ac yn cadw gwahanol grwpiau o foch ar wahân y byddem yn cael gwared ar y clefyd, ac rydyn ni wedi llwyddo i wneud hynny’’

O ganlyniad uniongyrchol i hynny, cynyddodd y gymhareb effeithlonrwydd trosi porthiant 0.2.

Derbyniodd y busnes gyllid hefyd gan Menter Moch Cymru ar gyfer Cynllun Iechyd y Genfaint.

Heb gefnogaeth Menter Moch Cymru, mae Kyle yn credu y byddai'r busnes mewn sefyllfa wahanol i'r un y mae ynddi heddiw.

"Byddem yn llawer llai effeithlon, rydyn ni mewn lle cymaint gwell gyda chenfaint effeithlon iawn oherwydd yr holl hyfforddiant a’r gefnogaeth. Rydyn ni’n hynod ffodus o gael Menter Moch Cymru yng Nghymru,'' meddai.