Dafad ac Oen o ddiadell Rhiwgriafol

Mae Cyswllt Ffermio yn falch o gyhoeddi cynlluniau i gefnogi cofnodi perfformiad mewn diadelloedd defaid Cymreig drwy Raglen Geneteg Defaid Cymru newydd. 

Drwy gydweithio'n agos ag arbenigwyr genetig blaenllaw, Innovis ac AHDB Signet bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd diadelloedd defaid Cymru drwy gynyddu nifer y ffermwyr defaid sy'n cymryd rhan yng ngwelliannau genetig eu diadelloedd.

Mae Cyswllt Ffermio nawr yn chwilio am ddiadelloedd newydd i ymuno gyda’r rhaglen, yn benodol bridiau o ddefaid mynydd ac ucheldir, yn ogystal â diadelloedd pedigri o ddefaid Wyneblas Caerlyr, Lleyn, Romney ac Charmoise yr ucheldir. 

Dywed Gwawr Williams, Pennaeth Geneteg Defaid gyda Menter a Busnes, sy'n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, fod y rhaglen yn cynnig cyfle gwych i ddiadelloedd sydd â phrofiad o gofnodi perfformiad barhau â'u taith wella genetig, yn ogystal â chyfle i ddiadelloedd newydd ddechrau eu teithiau eu hunain. 

“Mae hwn yn gyfle gwych i fusnesau sydd eisoes yn cofnodi perfformiad, neu'n gobeithio dechrau cofnodi, fanteisio ar gymorth Cyswllt Ffermio ym mhob agwedd ar y broses er mwyn cynyddu cynaliadwyedd eu busnes ar gyfer y dyfodol.”

“Gall defnyddio Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVs) fel offeryn i wella nodweddion penodol gael effaith enfawr ar gynhyrchiant y ddiadell. Mae defnyddio'r data a gasglwyd i'w lawn botensial yn caniatáu i ffermwyr wneud penderfyniadau cyfiawn ynghylch ble y gallant wella o fewn eu diadelloedd - gan arwain at fwy o enillion ariannol i'w busnesau”.

Bydd diadelloedd sy'n cymryd rhan yn elwa o gefnogaeth amrywiol drwy gydol y rhaglen ddwy flynedd, gan gynnwys cymorth ariannol i gynorthwyo casglu data, cyngor ac arweiniad ar osod targedau cyraeddadwy ar gyfer gwella diadelloedd, cyfleoedd i wella gwybodaeth a dealltwriaeth o fewn y pwnc, yn ogystal â chyfle i fod yn rhan o brosiectau ymchwil arloesol. 

“Bydd gan bob diadell a ddewisir ddangosyddion perfformiad allweddol a chanlyniadau wedi'u diffinio'n glir o'r cychwyn cyntaf fel bod nodau a mecanweithiau clir i fonitro perfformiad y ddiadell, a gwneud addasiadau angenrheidiol drwyddi draw,” meddai Mrs Williams. 

Yn ogystal â chasglu data i wella perfformiad cyffredinol y ddiadell, bydd cyfranogwyr hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil arloesol, gyda'r nod o ddatblygu nodweddion bridio penodol ar gyfer allyriadau methan is ac ymwrthedd llyngyr mewn defaid. 

Elfen hanfodol yn llwyddiant rhaglen trosglwyddo gwybodaeth Cyswllt Ffermio yw ei rôl o rannu arfer gorau a rhaeadru gwybodaeth i'r diwydiant ehangach. Trwy raglen o ddigwyddiadau uchel eu proffil ac offer hyrwyddo, gall Cyswllt Ffermio rannu canfyddiadau a chanlyniadau'r gwaith hwn, gan dynnu sylw at ffrydiau gwaith a thechnolegau arloesol newydd ym maes geneteg defaid. 

I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ac i ymgeisio, ewch i wefan Cyswllt Ffermio. Mae’r ffenestr ymgeisio yn agor ar ddydd Llun, 8fed o Fai, ac mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno mynegiant o ddiddordeb yn cau am 12yp Dydd Gwener, 9fed o Fehefin.