Ar 19 Ebrill, aeth Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd i Grŵp Llandrillo Menai i ddathlu cyhoeddi partneriaeth rhwng Grŵp Llandrillo Menai ac AMRC Cymru, gyda’r nod o drawsnewid yr economi wledig drwy ddatblygu sgiliau ac archwilio technolegau newydd ar gyfer y sector bwyd-amaeth.

Mae’r bartneriaeth hon yn gysylltiedig â Hwb Economi Wledig Glynllifon, a’i diben yw creu gweithlu bwyd-amaeth o’r radd flaenaf gyda’r lefelau uchaf o safonau amgylcheddol.

Wrth sôn am y cyfle a ddaw yn sgil y cytundeb i economi Gogledd Cymru, esboniodd Martin Jardine, Cyfarwyddwr Bwyd-Amaeth Grŵp Llandrillo Menai,

“Trwy ddod ag arbenigedd Grŵp Llandrillo Menai ac AMRC Cymru ynghyd, mae’r cytundeb hwn yn gyfle gwych i’r economi wledig ffynnu drwy gyfnewid gwybodaeth, arloesi a darparu mynediad hawdd at gymorth ehangach.

"Rydym yn llawn cyffro i fod yn sefydlu canolfan ar gyfer technoleg amaeth fel rhan o'r arlwy a ddarperir gan Hwb Economi Wledig Glynllifon, a gefnogir gan Fargen Twf Gogledd Cymru. Rydym yn croesawu'n fawr y cynlluniau i AMRC Cymru gael canolfan o fewn yr hwb ac yn edrych ymlaen at gefnogi busnesau gwledig i ddefnyddio ffyrdd modern o weithio sy’n ceisio cynyddu awtomeiddio, effeithlonrwydd a chynhyrchiant.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, am y cytundeb:

“Mae’n wych bod yma i ddatgelu’r cytundeb cydweithio hwn rhwng Grŵp Llandrillo Menai ac AMRC Cymru. Rydym yn gweld cydweithredu rhwng partneriaid yn hanfodol i ysgogi twf yn y diwydiant yn y dyfodol. Felly mae’n hynod gadarnhaol gweld dau o’r sefydliadau mwyaf blaenllaw o fewn bwyd-amaeth Cymru yn dod at ei gilydd er budd busnesau mawr a bach.

“Mae’r cytundeb hwn yn hwb nid yn unig i Ogledd Cymru, ond i economi Cymru yn gyffredinol, wrth i ni geisio creu gweithlu bwyd a diod o’r radd flaenaf sy’n arloesol, sydd â’r lefelau uchaf o safonau amgylcheddol ac yn addas ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Andrew Martin, Pennaeth Bwyd a Diod AMRC Cymru,

“Mae’n bleser gallu creu’r cytundeb hwn i helpu i dyfu economi bwyd-amaeth Cymru.

Ein nod yw helpu'r gymuned gweithgynhyrchu a bwyd-amaeth i gael mynediad at dechnolegau uwch a fydd yn ysgogi gwelliannau mewn cynhyrchiant, perfformiad ac ansawdd. Drwy gyfuno ein harbenigedd gyda Choleg Glynllifon a Chanolfan Technoleg Bwyd Grŵp Llandrillo Menai, byddwn yn gallu darparu atebion ar gyfer y gadwyn gyflenwi gyfan a helpu busnesau bwyd-amaeth i ddatblygu galluoedd newydd a gwreiddio datblygiadau technolegol ac arloesiadau newydd.”

Mae AMRC Cymru, a reolir gan Brifysgol Sheffield ac sy’n aelod o’r Catapwlt Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel (HVM), yn rhan o glwstwr o ganolfannau o’r radd flaenaf ar gyfer ymchwil sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant a datblygu technolegau a ddefnyddir mewn sectorau gweithgynhyrchu gwerth uchel. Mae ganddo enw da yn fyd-eang am helpu cwmnïau i oresgyn problemau gweithgynhyrchu ac mae wedi dod yn fodel ar gyfer ymchwil cydweithredol sy'n cynnwys prifysgolion, academyddion a diwydiant ledled y byd.

Mae ei ganolfan o’r radd flaenaf gwerth £20m a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar sectorau gweithgynhyrchu uwch gan gynnwys awyrofod, moduro, niwclear a bwyd ym meysydd ymchwil allweddol gyriant, cynaliadwyedd a gweithgynhyrchu digidol yn y dyfodol.

Bydd Grŵp Llandrillo yn gweithio'n agos gydag AMRC Cymru ar brosiectau trosglwyddo gwybodaeth lefel uchel gyda'r nod o greu gweithlu proffesiynol medrus iawn ar draws y gadwyn gyflenwi sy'n cynyddu cystadleurwydd ac yn manteisio ar gyfleoedd masnachol sy'n arwain at swyddi a buddsoddiad ar draws y rhanbarth.

Mae’r cytundeb yn cynnwys cydweithrediad sy’n gysylltiedig â phrosiect Bargen Twf Gogledd Cymru – Hwb Economi Wledig arfaethedig Glynllifon – ac mae’n cynrychioli buddsoddiad sylweddol i ffyniant economaidd economi gogledd Cymru yn y dyfodol.