
Ar ddydd Iau 25 Mai, roedd aelodau o Uned Gefnogi Rhwydwaith Gwledig Cymru yn bresennol mewn digwyddiad i nodi diwedd cyllid LEADER 2014-2020 yng Nghaerffili a Blaenau Gwent ac i ddathlu llwyddiannau dros 55 o brosiectau a gafodd eu hariannu yn ystod y cyfnod hwn.
Dyrannwyd cyllid LEADER i Gaerffili am y tro cyntaf yn 2008 ac yna cafodd ei ddyrannu i Blaenau Gwent yn 2014 ac yn ystod y cyfnod hwn buddsoddwyd dros £7 miliwn mewn cymunedau, busnesau a lleoedd.
Mae pob prosiect sy’n cael cyllid yn cael ei reoli a’i ysgogi gan bobl sy’n angerddol dros eu cymunedau ac yn gofalu am y bobl sy’n byw ynddynt a chyda gymaint i ddewis ohonynt dros y 7 mlynedd diwethaf, roedd y prosiectau a fynychodd ac a ddangosodd eu gwaith yn sampl fach o’r gwaith a gyflawnwyd trwy’r Rhaglen hon.
Ethos penodol LEADER yw ‘lleol’, gan helpu cymunedau i -
- Ychwanegu Gwerth at Hunaniaeth Leol ac Adnoddau Naturiol a Diwylliannol
- Hwyluso datblygiad cyn-fasnachol, partneriaethau busnes a chadwyni cyflenwi byr
- Archwilio ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau lleol anstatudol
- Darparu Ynni Adnewyddadwy ar Lefel Gymunedol
- Manteisio ar y defnydd o Dechnoleg Ddigidol
Prosiectau a gafodd eu harddangos yn y Dathliad
Llywelyn Bren – Ein Harwr Anghofiedig Llewelyn Bren - Ein Harwr Anghofiedig!!
Mae’r prosiect hwn wedi creu cofeb barhaol i Llywelyn Bren, arwr anghofiedig o Gymru a wnaeth frwydro dros gyfiawnder ac aberthu ei fywyd.
Roedd Llywelyn yn ddyn lleol pwysig a oedd ag awdurdod o dan y Normaniaid, ond pan ddechreuodd Newyn Mawr 1315-1317 effeithio ar Gymru gwrthododd brenin newydd Lloegr, Edward II, gynnig cymorth. Casglodd Llywelyn fyddin o ddynion i wrthryfela ac ymosod ar Gastell Caerffili.
Clywsom sut mae copïau o hynsut mae copïau o’r llyfr darluniadol hyfryd hwn bellach ym mhob ysgol bwrdeistref ac yn fuan bydd yn cael ei ymestyn i ysgolion eraill y siroedd cyfagos.
Yng Ngelligaer, ceir bwrdd gwybodaeth am Llewelyn Bren a gwnaed y pren ar gyfer y stondin o goeden dderw, a oedd yn ôl sôn, yn goeden ifanc, pan ddaeth i Lancaiach Fawr, yn Nelson.
Melinwyd y dderwen gan brosiect arall Cwm a Mynydd - WoodLabPren.
HIVE Connect - Prosiect Peilot HIVE Connect
Mae cynllun peilot HIVE (Cyfannol, Canolbwyntio ar yr Unigolyn, Gwirfoddoli, Cyflogaeth) yn brosiect arloesol newydd ar gyfer sgiliau, cyflogaeth a chynhwysiant cymdeithasol sy’n profi ffordd newydd o gefnogi pobl ag anghenion cymhleth, wrth gyfrannu at ddatblygiad economaidd Llanhiledd.
Esboniodd Hayley Davies o HIVE fod y cysyniad yn rhaglen unigryw o gymorth ac ymyrraeth gyfannol, cofleidiol a phob un ar gael yn ddidrafferth o dan yr un to. Mae’n rhaglen amlochrog a rhyng-gysylltiedig sy’n cynnig cyfleoedd ar gyfer:
- Gwirfoddoli a phrofiad gwaith,
- Cymorth llythrennedd ar gyfer oedolion,
- Coginio iach a mynediad at fwyd ffres a
- Hyfforddiant i wella sgiliau gwaith a bywyd ac ennill cymwysterau.
Esboniodd Hayley sut mae’r prosiect wedi bod yn fwy llwyddiannus nag y gallent fod wedi’i ddychmygu erioed, ac nid y prosiect hwn yw’r cyntaf i gael cyllid drwy Cwm a Mynydd. Bellach mae ganddynt gaffi a becws, pob un yn cael ei gynnal gan wirfoddolwyr sydd wedi cymryd rhan yn yr Hwb Hyfforddi - Hyrwyddo Bwyta’n Iach a Choginio i’r Teulu Cyfan.
Mae Tirwedd Hanesyddol Comin Gelligaer a Merthyr, sydd wedi’i dynodi gan Cadw, yn ecosystem unigryw sy’n darparu ‘gwerth’ economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pwysig i’r cymunedau gwledig sydd o’i chwmpas ac yn dibynnu arni.
Fodd bynnag mae’r dirwedd o dan fygythiad yn bennaf oherwydd llawer iawn o ymddygiad gwrthgymdeithasol gan gynnwys tipio anghyfreithlon, taflu ysbwriel, cerbydau oddi ar y ffordd a difrod amgylcheddol.
Siaradodd Mark Ward a Glyn Davies yn angerddol am ‘Dirweddau’r Comin’ gan egluro yn gyntaf sut mae’r tirweddau yn unrhyw beth ond tir comin, mae ffermwyr lleol yn eu defnyddio i helpu i leihau costau ffermio drwy bori eu hanifeiliaid ar diroedd comin gan arbed y tir fferm i helpu gyda bwydo yn y gaeaf.
Mae tiroedd comin yn dibynnu’n helaeth ar wirfoddolwyr sy’n helpu drwy gadw’r dirwedd yn lân o sbwriel sy’n cael ei dipio’n anghyfreithlon yn rheolaidd yn yr ardal.
Trwy’r prosiect cymerodd Mark, ynghyd â rhanddeiliaid a ffermwyr lleol eraill, ran mewn prosiect cydweithredu ucheldirol arall i archwilio a chyfnewid syniadau ffermio ïonau ar gyfer bywyd gwyllt gydag ardaloedd yn y Burren yng Ngweriniaeth Iwerddon.
Mae’r prosiect Tiweddau’r Comin yn gweithio’n galed i gadw ein tirwedd yn brydferth!
Rheoli Gorbryder a Chefnogi Gwydnwch gyda Phobl Ifanc
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Regener8Cymru wedi cyflawni nifer o brosiectau sy’n targedu cymorth i ddisgyblion ysgol a phobl ifanc er mwyn eu paratoi’n well i ddelio â sefyllfaoedd cymdeithasol sy’n dod yn fwy heriol a chymhleth.
Esboniodd Penny Champan yr hyn a gyflawnwyd a’r gwahaniaeth y mae wedi’i wneud i’r rhai dan sylw a pham mae’r gwaith hwn yn bwysig i’w brif ffrydio yn y dyfodol.
Adroddodd ar y cynnydd enfawr mewn ymwybyddiaeth am lles ac iechyd meddwl plant ers y pandemig. Dyw nifer o blant ddim hyd yn oed yn sylweddoli bod eu hiechyd meddwl dan bwysau nes eu bod yn dechrau siarad am y materion bob dydd y maent yn eu hwynebu - mae’n drist bod cymaint o blant yn meddwl nad yw’r hyn maen nhw’n ei brofi yn eu bywyd cartref yn ‘normal’ i’r rhan fwyaf o bobl ifanc.
Yr hyn y mae Penny wedi’i brofi drwy’r prosiect yw bod angen enfawr am y cymorth a’r ymyriadau sy’n cael eu cynnig i’r ysgolion hyn, gan egluro, yn achos un plentyn penodol a oedd yn swil iawn ac yn tynnu’n ôl, cymerodd amser hir i’w gael i siarad â’r tîm cymorth, ond drwy ddyfalbarhad a chymorth, mae’r plentyn arbennig hwn wedi gweld newid gwirioneddol ynddo’i huna’i lesiant.
Ar ddiwedd cyflwyniadau’r bore, roedd ymwelwyr yn gallu ymweld ag arddangosfa a oedd yn caniatáu i ymwelwyr siarad â’r prosiectau uchod a gweld enghreifftiau eraill o’r prosiectau gwych a gafodd eu hariannu gan LEADER a Cwm a Mynydd.