Math o ddigwyddiad:
Face to face bootcamp
Dyddiad ac amser:
Lleoliad:
Moody Cow, at Bargoed Farm, Llwyncelyn, Aberaeron
E-bost:
Ffôn:
07985155670
Bŵtcamp llaeth_Dairying bootcamp

Mae cwrs busnes sy’n canolbwyntio’n benodol ar y diwydiant llaeth wedi’i greu gan Cyswllt Ffermio i helpu newydd-ddyfodiaid ffynnu yn y sector.

Nod y Bŵtcamp Busnes dwys deuddydd yw rhoi hyder, sgiliau a chymhelliant i newydd-ddyfodiaid i fanteisio ar gyfleoedd, datblygu busnesau effeithlon ac adeiladu gyrfa lwyddiannus.

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y cwrs preswyl yn cael y cyfle i gael gwybodaeth gan amrywiaeth dda o siaradwyr, meddai’r trefnydd Eiry Williams, o Cyswllt Ffermio.

“Bydd y cwrs yn ymdrin â chynllunio busnes, ffermio cyfran a phori a bydd hefyd yn cynnwys ymweliad â fferm,” eglura.

John Crimes, yr ymgynghorydd amaethyddol o CARA Cymru fydd yn cyflwyno’r modiwlau hynny, a bydd yn rhoi arweiniad ar gytundebau ffermio cyfran a chynlluniau busnes, tra bydd yr ymgynghorydd ar newid sefydliadol, Wyn Owen yn helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i ganolbwyntio eu meddyliau ar ble maent am fynd nesaf – ac, yn bwysig iawn, sut i gyrraedd yno.

Nid oes ffordd well o gael ysbrydoliaeth na chlywed gan y rhai a oedd yn newydd-ddyfodiaid eu hunain unwaith. Yn gwneud hynny bydd ffermwr o Gonwy, Sam Pearson, Mentor Cyswllt Ffermio, a fydd yn rhoi cipolwg ar ei stori a’i system ffermio.

Ffermwr arall sy'n sicr o ysbrydoli yw Matthew Jackson, y mae ei gynnydd trawiadol o fewn y diwydiant llaeth wedi golygu ei fod wedi datblygu o fod yn berchen ar ddim gwartheg i fwy na 1,300 mewn 11 mlynedd yn unig. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y cwrs yn clywed sut y cyflawnodd hynny, tra bydd yr hyfforddwr corfforaethol Emma Shaw, uwch bartner gyda Real Success yn darparu sesiwn bwerus ar ddeinameg tîm er mwyn cefnogi mynychwyr i ymdrin â phobl yn fwy effeithiol. 

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal yn y Moody Cow, Fferm Bargoed, Llwyncelyn, Aberaeron, lle bydd y perchennog, Geraint Thomas, yn rhoi cipolwg ar ei fusnes llwyddiannus.

Bydd yr ymweliad â fferm Henbant lle mae Eilir Evans yn cynhyrchu llaeth o’i fuches llaeth sy’n cynnwys 700 o wartheg wedi'u rhannu'n ddwy uned.

Cynhelir y cwrs ddydd Mercher 22 Tachwedd a dydd Iau 23 Tachwedd 2023 a darperir llety dros nos.

I neilltuo lle neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Eiry ar eiry.williams@menterabusnes.co.uk neu 07985155670.