Scott Robinson

“Fyddwn i ddim lle rydw i heddiw oni bai am Cyswllt Ffermio,” meddai’r ffermwr llaeth o Sir Benfro, Scott Robinson. Mae Scott (25) yn uchelgeisiol, wedi ffocysu a hefyd yn brysur iawn! Mae’n gweithio ochr yn ochr gyda’i rieni ar fferm y teulu ger Clunderwen, ac yn rhedeg ei fenter peiriant gwerthu llaeth llwyddiannus ei hun. Mae’n dweud nad yw eto wedi dod o hyd i’r llwybr i sicrhau’r cydbwysedd perffaith rhwng gwaith a bywyd - ‘does dim digon o oriau yn y dydd’ - ond, fel popeth arall mae’n mynd i’r afael ag ef, mae’n gweithio arno!

Ar ôl mynychu Coleg Hartpury i astudio diploma estynedig mewn amaethyddiaeth, teithiodd Scott o gwmpas Seland Newydd i gael profiad o weithio ar unedau llaeth ar raddfa fawr.

“Roedd yn agoriad llygaid – os nad oedd eu gweithwyr wedi gorffen eu diwrnod erbyn 5pm, roeddent yn teimlo eu bod yn gwneud rhywbeth o’i le, gallem ddysgu o hynny yma yng Nghymru hefyd!”

Tyfodd Scott i fyny ar y fferm cyngor yn Sir Benfro sydd wedi ei thenantio ers bron i 30 mlynedd. Ar hyn o bryd maent yn godro 140 o fuchod Holstein Ffrisian ddwywaith y dydd ac yn eu pori ar 200 erw o borfa a silwair.

Cafodd y teulu fynediad cyntaf i Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio yn 2019. Arweiniodd cyngor samplu pridd a chynllunio rheoli maetholion i ddefnydd mwy targedig o wrtaith nitrogen ar gaeau gyda mynegion uchel gyda slyri mewn mannau eraill.

“Mae hyn wedi arbed amser ac arian i ni felly byddwn nawr yn ailasesu hyn bob tair i bedair blynedd,” meddai Scott.

Drwy’r Gwasanaeth Cynghori, gwnaethant gais hefyd am adroddiad seilwaith a byddant yn dechrau yn fuan ar y gwaith o lagŵn slyri fydd yn sicrhau fod y fferm yn cyrraedd y gofynion llygredd amaeth newydd. Bydd hyn yn caniatáu defnydd mwy effeithlon o faetholion fferm ac yn galluogi’r teulu i drawsnewid i brynu eu holl heffrod cyfnewid i mewn. Cyflwynwyd yr adroddiad seilwaith fferm fel rhan o’r cais cynllunio gan ddarparu’r wybodaeth oedd ei angen i Adnoddau Naturiol Cymru gymeradwyo’r cynnig.

Ddwy flynedd yn ôl, wrth gael ei annog gan ei fentor Cyswllt Ffermio Lilwen Joynson, dechreuodd Scott ymchwilio i gost a hyfywedd sefydlu busnes peiriant gwerthu llaeth newydd ar y fferm. 

Ymgeisiodd yn llwyddiannus am fenthyciad sylweddol a alluogodd iddo addasu un o adeiladau'r fferm a buddsoddi yn yr offer angenrheidiol. Sefydlodd hefyd gytundeb ffurfiol gyda’i rieni i brynu rhywfaint o’u llaeth, gyda’r gweddill yn cael ei werthu drwy gytundeb i gwmni cyfanwerthu llaeth mawr.

Dywed Scott fod tapio i mewn i ystod o wasanaethau cefnogi Cyswllt Ffermio nid yn unig wedi rhoi sgiliau newydd iddo, ond hefyd wedi cynyddu ei rwydwaith o ffermwyr rhagweithiol tebyg sydd i gyd yn awyddus i rannu eu profiadau o arloesedd a ffyrdd mwy effeithiol o weithio.

Mae Scott a’i rieni ar wahanol adegau wedi bod yn aelodau o grŵp trafod llaeth Cyswllt Ffermio - sy’n cwrdd yn chwarterol i drafod materion fel meincnodi, cynllunio rheoli maetholion a strategaethau pori yn ogystal ag iechyd anifeiliaid a pherfformiad.

Yn gyn-gyfranogwr i Academi Amaeth, y mae’n dweud oedd yn hwb enfawr i’w hunanhyder, mae Scott hefyd wedi bod yn rhan o raglen sylfaenol Rhagori ar Bori Cyswllt Ffermio i gael gwell dealltwriaeth o reoli porfa. Mae’r teulu hefyd wedi cael mynediad at ganllawiau sector-benodol ar bynciau yn cynnwys cynllunio, rheoli maethyddion, storio slyri, rheoli glaswelltir a chnydau.

Ymunodd Scott â grŵp Agrosgôp lleol hefyd a sefydlwyd yn arbennig ar gyfer ffermwyr llaeth yn ymwneud â mentrau gwerthu llaeth, oedd yn cynnwys unigolion oedd yn meddwl am gychwyn busnes yn ogystal â rhai oedd yn gwerthu yn barod.

“Roedd yn hynod o ddefnyddiol i rannu gwybodaeth am gyflenwyr da, cymharu costau a chyfnewid cysylltiadau – roedd rhannu ein profiadau yn gymorth mawr i mi.”

Arweiniwyd y grŵp gan Lilwen Joynson, oedd wedi cwrdd â Scott ar ddechrau ei ‘daith’ entrepeneuraidd yn ei rôl fel mentor iddo.

Dywed Scott mai cefnogaeth Lilwen oedd y catalydd a anogodd y teulu cyfan i siarad yn agored ‘o gwmpas bwrdd y gegin’ am eu gobeithion am y dyfodol.

"Trwy hwyluso ein trafodaethau, buan iawn y cawsom ymdeimlad clir o gyfeiriad ac fe gafodd ei hawydd hi i bob un ohonom lunio cynllun gweithredu a therfynau amser manwl ar ôl pob cyfarfod ddylanwad mawr ar uchelgeisiau tymor byr a thymor hir am gyfeiriad y fferm yn y dyfodol.

“Mae Cyswllt Ffermio wedi fy helpu i ddysgu mwy am arloesi, arfer gorau presennol a ffyrdd mwy effeithlon o weithio, i gyd yn allweddol i ffermwyr ar adeg pan mae angen i ni fod yn fwy ymwybodol o newid hinsawdd a diogelu’r amgylchedd.

Fe wnaeth Lilwen ein hannog ni i gyd i feddwl am yr oblygiadau ehangach a fy argyhoeddi i a fy rhieni y dylem ymchwilio ymhellach a manteisio ar bob cyfle i ddiogelu'r fferm a’r busnes gwerthu llaeth at y dyfodol.

“Mae gen i sylfaen cwsmeriaid sy’n ehangu ac rwy’n optimistaidd o fewn tair blynedd, pan fyddaf wedi talu fy menthyciad gobeithio, y bydd yr holl elw o’r ochr peiriant gwerthu llaeth yn mynd yn syth i fy mhocedi - mae’n rhywbeth braf i fy nghadw i weithio’n galed!”

Mae Scott hefyd wedi ymgymryd â chyrsiau hyfforddi Cyswllt Ffermio yn cynnwys hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol a chwrs marchnata sy’n ei helpu i hyrwyddo'r busnes gwerthu llaeth.

“Mae’n gwneud synnwyr masnachol da i gymryd mantais o’r holl gefnogaeth ac arweiniad sydd ar gael, a gyda gwasanaethau Cyswllt Ffermio naill ai wedi eu hariannu yn llawn neu gyda chymhorthdal o hyd at 80%, buaswn yn cynghori unrhyw un i godi’r ffôn i’w swyddog datblygu lleol heddiw.”

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.