Rhys Davies Moor Farm- part of the Farming Connect Our Farms Network

Mae fferm laeth yn Sir y Fflint yn disgwyl lleihau’r defnydd o wrthfiotigau ymhellach yn ei fuches sy’n lloia mewn bloc drwy ddefnyddio techneg arloesol sy’n cysylltu DNA buchod unigol â’i lefel cyfrif celloedd somatig (SCC) mewn un sampl o laeth tanc.

Mae Moor Farm, ger Treffynnon, sy'n aelod o rwydwaith 'Ein Ffermydd' Cyswllt Ffermio, yn osgoi defnyddio gwrthfiotigau oni bai bod gwir angen.

Nid yw gwrthfiotigau yn cael eu defnyddio ar gyfer buchod sych fel mater o drefn bellach – defnyddir selwyr yn unig ar unrhyw fuchod sydd â SCC o lai na 250,000 o gelloedd yn y cyfnod sychu.

Mae buchod â darlleniadau uwch, y rhai sydd wedi profi cynnydd yn SCC yn ystod y tri mis blaenorol neu anifail sydd wedi cael achos o fastitis clinigol yn cael eu hasesu'n unigol i bennu a ydynt angen gwrthfiotigau a’i peidio.

Mae hyn wedi lleihau'r defnydd o wrthfiotigau i 5.06mg/uned boblogaeth wedi ei chywiro (PCU).

I Rhys Davies a’i rieni, Dei a Heulwen, yr uchelgais yw lleihau triniaethau ymhellach, drwy ddefnyddio techneg sy’n gysylltiedig â phrofion genomeg.

-Moor Farm expects to cut antibiotics usage in block-calving dairy herd

Mae'r teulu Davies wedi bod yn cynnal profion genomeg ar loi eu heffrod pan maent yn bythefnos oed ers 2014, gan ddefnyddio Adroddiad Geneteg y Fuches sydd ar gael gan AHDB Dairy a'u rhestru yn ôl canran protein, mynegai ffrwythlondeb, cynhaliaeth a mastitis.

Fel un o brosiectau 'Ein Ffermydd' Cyswllt Ffermio, maent yn datblygu hyn ymhellach, gan gysylltu profion genomeg â GenoCells, sef techneg profi llaeth newydd sy'n darparu SCC buchod unigol gan ddefnyddio un sampl o laeth tanc.

Mae GenoCells yn defnyddio proffil genomeg pob buwch i nodi cyfraniad SCC er mwyn osgoi’r angen i samplo pob buwch yn unigol, sy’n cymryd llawer o amser, eglura Rhys.

Gan fod ei fuches i gyd yn cael ei phrofi'n genomeg, mae'n awyddus i weld pa mor gywir y gall profi samplau o laeth tanc fod o ran nodi SCC buchod unigol yn y fuches o’i gymharu â dulliau cofnodi llaeth traddodiadol.

Mae'n gobeithio y bydd yn ei alluogi i nodi buchod sy'n achosi problem yn gyflym yn dilyn unrhyw ganlyniadau SCC uchel a gafwyd yn ystod profion rheolaidd.

“Rydym yn gobeithio y bydd yn caniatáu i ni wneud penderfyniadau mwy cywir wrth sychu gwartheg,'' meddai Rhys, sy'n lloia'r fuches dros wyth wythnos o 15 Mawrth.

“Gallwn samplu bob wythnos ar ôl lloia i ganfod unrhyw wartheg sydd wedi'u heintio yn ystod y cyfnod sychu, ac efallai mai dim ond cyffuriau gwrthlidiol sydd eu hangen, nid gwrthfiotigau.'' 

I rai buchesi bydd yn osgoi gofyniad i samplu llaeth buwch unigol, sy’n cymryd llawer o amser.

Mae Rhys yn credu y bydd hyn yn ddeniadol i systemau mewnbwn isel nad ydynt yn canolbwyntio ar gofnodi cynnyrch llaeth, yn ogystal â ffermwyr llaeth yn gyffredinol gan y gallai eu galluogi i nodi mastitis isglinigol, gwella ansawdd llaeth, lleihau’r defnydd o wrthfiotigau a hwyluso rhaglen therapi dethol i fuchod sych.

Bydd canlyniadau prosiect Moor Farm yn cael eu rhannu â’r diwydiant ehangach, sef un o brif nodau rhwydwaith Ein Ffermydd.

“Mae GenoCells yn dechnoleg newydd iawn, nid wyf yn gwybod am ffermwr arall sydd wedi ei defnyddio eto, felly mae Cyswllt Ffermio wedi bod yn flaengar iawn i’w threialu fel un o’n prosiectau Ein Ffermydd,’’ meddai Rhys.

“Gallai'r canlyniadau gael effaith bwysig iawn ar ein defnydd o wrthfiotigau yn y dyfodol, ac i ffermydd llaeth eraill yng Nghymru hefyd.''