Mae protocolau i fynd i’r afael â haint parhaus cryptosporidiwm sy’n effeithio ar iechyd a pherfformiad ŵyn a lloi ar fferm dda byw yng Nghymru yn cael eu llywio gan ganfyddiadau prosiect Rhaglen Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru a nododd ffynhonnell y ficro-organeb.

Roedd Mike Lewis a Liz Lewis-Reddy ymhlith saith ffermwr ym Mhowys a gychwynnodd ar astudiaeth EIP Cymru i ddeall llwybrau haint cryptosporidiwm mewn defaid a nodi mesurau i reoli ac atal y clefyd yn eu diadelloedd.

Er nad oedd y cwpl yn credu bod ganddyn nhw broblem gyda haint ymysg eu defaid, trwy gymryd rhan yn y prosiect roedden nhw'n gallu olrhain tarddiad cryptosporidiwm i'w reoli mewn lloi ac i'w atal rhag trosglwyddo i'w hŵyn.

Maen nhw'n rhedeg buches o frid prin Gwartheg Hynafol Cymru ynghyd â diadell o ddefaid ar system organig yn seiliedig ar borthiant ar fferm fynydd 150 erw eu teulu, Fferm Brynhoveth, ger Llandrindod.

Roedd lloi wedi bod yn datblygu sgwrio parhaus, difrifol a nodwyd mai cryptosporidiwm oedd yr achos.

Trwy waith prosiect EIP Cymru, ymgymerwyd â samplo ffynonellau dŵr da byw ar y ffermydd gan Dŵr Cymru (DCWW), ddechrau mis Mawrth cyn ŵyna, ganol mis Ebrill, ac yng nghanol mis Mehefin, ar ôl ŵyna.

Hefyd samplwyd ysgarthion ŵyn newydd-anedig.

Dangosodd yr astudiaeth fod cryptosporidiwm yn cael ei ganfod yn gyffredin ar y ffermydd a oedd yn rhan o’r prosiect, ond yn amlach mewn dŵr nag mewn ŵyn.

Darganfu Mike a Liz fod y ficro-organeb yn cael ei chyflwyno i loi trwy ddŵr yr afon; mae’r cae lle mae buchod yn lloia yn y gwanwyn wedi’i leoli wrth ymyl afon sy’n dueddol o orlifo yn y gaeaf gan arwain at gryptosporidiwm yn y dŵr yn halogi’r borfa.

“Heb inni sylweddoli, roedden ni'n heintio ein lloi gyda chryptosporidiwm,'' meddai Liz.

Mae'r prosiect wedi darparu tystiolaeth i helpu i lywio mesurau ynghylch risg haint ar y fferm.

“Allwn ni ddim rheoli beth sy'n digwydd yn yr afon, ond fe allwn ni gyfyngu'r risg i'n lloi,'' meddai Liz.

Rhoddir toddiant ataliol drwy’r geg i loi ar ôl 24 awr wedi iddynt gael ei geni.

Mae'r cynnyrch yn lleihau hyfywedd y cryptosporidia yn y perfedd ac yn lleihau'r golled o niferoedd öosystau, gan gyfyngu ar ledaeniad y clefyd.

Dywedodd Liz fod y prosiect wedi bod yn sefyllfa lle mae'r ffermwyr a DCWW ar eu hennill.

“Roedden nhw'n ein cefnogi ni i ddod o hyd i atebion i ni ac iddyn nhw,'' meddai.

Mae mesurau bioddiogelwch ar ei fferm eisoes yn uchel iawn ond mae’r opsiynau rheoli a argymhellir i bob ffermwr i gyfyngu ar y risg o gryptosporidiwm yn cynnwys:

  • Glanhau adeiladau â stêm i ladd öosystau
  • Glanhau a diheintio siediau da byw yn aml; mae ymchwil wedi canfod mai hydrogen perocsid 3% a diheintyddion sy'n seiliedig ar hydrogen perocsid yw'r rhai mwyaf effeithiol o ran lleihau hyfywedd öosystau cryptosporidiwm. Mae diheintyddion yn llai effeithiol ar öosystau sydd mewn ysgarthion, felly fe'ch cynghorir i lanhau siediau'n drylwyr cyn diheintio. 
  • Rhoi gwellt oddi tan yr anifeiliaid yn aml
  • Gosod anifeiliaid sy'n sgwrio dan gwarantin
  • Sicrhau bod ŵyn a lloi yn cael digon o golostrwm o ansawdd da yn gyflym

PANEL

Cynhaliwyd samplo bedair gwaith ar gyfartaledd yn ystod y tymor wyna ar bob un o’r ffermydd a oedd yn rhan o’r astudiaeth EIP.

Mae cyfanswm o 156 o samplau ysgarthion defaid wedi’u casglu hyd yma – cyfartaledd o 22 fesul fferm – yn ogystal â samplau o rywogaethau eraill gan gynnwys gwartheg, cŵn, cwningod a ffesantod.

Canfuwyd cryptosporidiwm mewn ŵyn ar bob fferm ac eithrio un.

Cymerwyd samplau dŵr ar bedair o’r ffermydd deirgwaith rhwng mis Mawrth a mis Mehefin – canfuwyd cryptosporidiwm mewn dŵr ym mhob un o’r ffermydd hynny; fe'i cafwyd mewn dŵr o ddau o'r tri thwll turio a brofwyd hefyd.

Roedd cryptosporidiwm yn cael ei ganfod yn amlach mewn dŵr nag mewn ŵyn ac roedd yn ymddangos mai gwartheg oedd yn cyfrannu’n bennaf at halogi dŵr.

Mae ŵyn yn dod yn llai agored i afiechyd po hynaf y maent ond nid yw anifeiliaid a oedd wedi dod i gysylltiad â’r clefyd yn y gorffennol yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu hail-heintio.

Gall hyd yn oed anifeiliaid nad ydynt yn dangos clefyd clinigol fod yn gollwng niferoedd mawr o öosystau. 

Mae’r EIP yng Nghymru, sy'n cael ei ddarparu gan Fenter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.