Clawdd Offa's dairy cows

Pan gyflwynodd fferm laeth yn Sir y Fflint system odro unwaith y dydd (OAD) roedd yn newid parhaol a wnaeth y busnes i wella cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ond gellir hefyd lleihau pa mor aml rydych yn godro fel mesur dros dro i reoli iechyd y fuches neu gynorthwyo gydag ehangu’r fuches.

Mae David a Carol Williams, eu merch, Vicky, a’u chwaer-yng-nghyfraith Sue Pope, yn rhedeg buches sy’n lloia yn y gwanwyn ar system laswellt yng Nghlawdd Offa, Llaneurgain.

Farm Walk at Clawdd Offa discussing Once a Day Milking

Yn ddiweddar, bu iddynt gynnal diwrnod agored Cyswllt Ffermio pan drafodwyd manteision ac anfanteision godro unwaith y dydd. Fel rhan o’r diwrnod, aeth David â ni o amgylch y fferm i edrych ar y gwartheg, yr isadeiledd pori a thrafod glaswellt a rhai gwndwn llysieuol newydd a dreialwyd ar y fferm yr haf hwn, ond nid oedd pawb o'r tîm yng Nghlawdd Offa wedi'u hargyhoeddi gyda’r porfeydd aml-rywogaeth.

Yng Nghlawdd Offa, mae’r newid i system odro unwaith y dydd yn 2011 wedi bod yn gam cadarnhaol, penderfyniad a wnaed i ddechrau fel dewis ffordd o fyw oherwydd, yn 50 oed, nid oedd David am barhau i odro ddwywaith y dydd (TAD).

Yr oedd elfen o angenrheidrwydd hefyd; i gael mynediad i un hanner y platfform pori, mae angen i wartheg groesi ffordd gymudwyr brysur iawn, sy’n agos at wibffordd Gogledd Cymru, tasg sydd angen tri o bobl.

Mae'n un y gall y teulu ei wneud mewn llai na phum munud ond roedd gwneud y gwaith hwn ddwywaith y dydd yn dod yn fwyfwy anodd.

Cafwyd gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn sgil godro unwaith y dydd ond yr hyn nad oedd y teulu wedi ei ragweld oedd y cynnydd mewn solidau llaeth - roedd y gwartheg yn cynhyrchu 15-20% yn fwy ar gyfartaledd.

“Yr ydym yn rhagweld y byddwn yn cynhyrchu tua 400kg o solidau llaeth fesul buwch, dros 5,000 litr o laeth safonol,” meddai David.

Mae'n system y maent wedi bod yn gweithredu ers 12 mlynedd ond gellir defnyddio system odro unwaith y dydd hefyd fel ymateb tactegol tymor byr i wahanol ffactorau.

Dywedodd Sean Chubb, ymgynghorydd Pasture to Profit LIC UK, siaradwr yn nigwyddiad Cyswllt Ffermio, y gall fod yn fesur defnyddiol i  helpu i ehangu buchesi.

Er enghraifft, efallai y bydd ffermwr yn cymryd tir cyfagos sy'n caniatáu i nifer y gwartheg gynyddu o 100 i 200 ond eto mae'r parlwr godro a'r cyfleusterau wedi'u sefydlu ar gyfer 100 o wartheg yn unig.

“Gallai godro 100 yn y bore a 100 yn y prynhawn fod yn opsiwn tan fod isadeiledd newydd ar waith,” dywedodd Mr Chubb.

Gellir ei ddefnyddio hefyd fel offeryn i reoli iechyd anifeiliaid a chyflwr corff ar adegau o fannau gwan yn ystod y cyfnod llaetha, gan gynnwys yn ystod y tair wythnos gyntaf ar ôl lloia pan fydd cynhyrchiant llaeth yn cynyddu a bydd y gwartheg yn ei chael hi’n anodd cael digon o borthiant i gyd-fynd â’r angen hwnnw.

Os caiff pwysau godro ei leihau ar y pwynt hwn, gall ffrwythlondeb yn y cylch bridio nesaf wella'n aml, meddai Mr Chubb.

Gallai’r cyfaddawd fod yn ostyngiad mewn cynhyrchiant llaeth, efallai 1.5% cilogram yn llai o  solidau llaeth dros y cyfnod llaetha, ond bydd amrywiad tebyg i’w weld o flwyddyn i flwyddyn o wahanol amodau tywydd.

Os yw buwch wedi cael cyfnod lloia anodd - efallai ei bod wedi cael gefeilliaid, ôl-frych neu'n denau - bydd godro unwaith y dydd yn ystod y cyfnod paru yn helpu ffrwythlondeb.

“Rydym yn aml yn gweld gwartheg sydd wedi cael eu rhoi ar y system honno yn ystod y tymor paru yn cyflawni cyfraddau cenhedlu uwch na’r rhai nad ydynt wedi cael anafiadau yn ystod genedigaeth ond sy’n cael eu godro ddwywaith y dydd,” meddai Mr Chubb.

Mae lleihau pa mor aml rydych yn godro hefyd yn ddefnyddiol i alluogi enillion sgôr cyflwr corff yn ystod dau fis olaf y cyfnod llaetha, pan sylwir llai ar golledion cynhyrchu llaeth gan fod y cnwd eisoes yn lleihau ar yr adeg hon.

I ffermwyr sy'n ystyried newid mwy parhaol i system odro unwaith y dydd, llafur yw'r ystyriaeth sylfaenol yn aml, ond rhybuddiodd Mr Chubb yn erbyn hyn fel offeryn di-awch ar gyfer rhedeg nifer uwch o wartheg fesul uned lafur.

“Gallai roi gormod o bwysau ar staff, gan wneud eu bywydau'n anodd, a gallai'r busnes fod yn gorfod rheoli trosiant staff rheolaidd.''

Serch hynny, mae yna arbedion gwaith pendant yn sgil godro unwaith y dydd.

Edrychodd astudiaeth yn Seland Newydd ar yr uned lafur gyfartalog cyfwerth â llawn amser ar wahanol systemau – ar system odro dwywaith y dydd roedd angen un uned lafur fesul 139 o fuchod tra ar system odro unwaith y dydd roedd yn 157 – 20 o fuchod ychwanegol.

Ond roedd yr astudiaeth yn seiliedig ar fuchesi ar laswellt 365 diwrnod y flwyddyn, felly, efallai na fyddai'r ffigyrau hynny'n berthnasol i systemau'r DU lle mae siediau’n fwy o nodwedd, nododd Mr Chubb.

Bydd gwartheg yn cymryd mwy o amser i odro ar system unwaith y dydd - cyfartaledd o 3.5 awr mewn buches o 200 o fuchod o gymharu â thair awr ar gyfer y nifer hwnnw sy’n cael eu godro dwywaith y dydd - ond gwneir arbedion ar eitemau fel leinin clwstwr wrth iddynt gael eu defnyddio llai ac ar fân bethau megis cemegau llaeth oherwydd dim ond unwaith y bydd y gwaith golchi’n cael ei wneud.

Mae cost cynhyrchu yn debygol o fod yn llai hefyd – er enghraifft, os yw gwartheg yn cael dwysfwyd bob tro maent yn cael eu godro, dim ond unwaith y dydd y bydd angen y bwyd hwnnw arnynt.

“Ond mae llai o allbynnau o wartheg sydd ar system odro unwaith y dydd, felly, mae angen gostyngiadau mewn costau i wrthbwyso’r golled honno,” meddai Mr Chubb.

Ar gyfer ffermydd sydd wedi trawsnewid i’r sector llaeth ond heb y topograffi delfrydol ar gyfer hynny – er enghraifft gallai fod â thir serth – gall fod yn synhwyrol dewis system odro unwaith y dydd.

“Bydd gwartheg yn cerdded llawer ac felly’n colli llawer o litrau os ydynt yn cerdded i fyny'r elltydd, felly, mae'n fuddiol os mai dim ond unwaith y dydd y bydd angen iddynt ddod i'r parlwr,” meddai Mr Chubb.

Gall cyfrif celloedd somatig uwch (SCCs) fod yn broblem, yn enwedig pan ddefnyddir system odro unwaith y dydd fel mesur tymor byr os, er enghraifft, mae hanes o staph aureus yn y fuches.

“Gall hynny ymddangos eto, felly bydd angen i chi nodi’r gwartheg hynny a’u rheoli,” dywedodd Mr Chubb.

“Hyd yn oed os yw'r newid i system odro unwaith y dydd yn barhaol, efallai y byddwch yn gweld cynnydd yng nghyfrif celloedd somatig yn y ddwy flynedd gyntaf ond gellir gostwng y cyfrif yn ôl i lefelau arferol fel y digwyddodd ar y fferm yng Nghlawdd Offa.''

Os na fydd y newid i system odro unwaith y dydd yn gweithio, mae'n broses syml i drosglwyddo yn ôl i odro ddwywaith y dydd, ychwanegodd Mr Chubb.

Discussing the pros and cons of Once a Day Milking at Clawdd Offa with consultants (002)