‘Working in Wales’ – land-based workers in the spotlight at Farming Connect conference

‘Rhaid hwyluso a hybu pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) nawr er mwyn moderneiddio a phroffesiynoleiddio ein diwydiannau tir a’u paratoi ar gyfer gofynion economaidd ac amgylcheddol y dyfodol!’  

Dyma oedd y brif neges unfrydol ar ddiwedd cynhadledd adeiladol Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd fis diwethaf.

Euryn Jones, Cadeirydd bwrdd rhaglen Cyswllt Ffermio, a arweiniodd y digwyddiad, lle roedd cynrychiolwyr gwadd o randdeiliaid allweddol y sector gwledig yn bresennol, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol ffermio, sefydliadau cadwyn gyflenwi, colegau a darparwyr hyfforddiant, swyddogion polisi Llywodraeth Cymru, y gwasanaeth gyrfaoedd, undebau ffermio, CFfI Cymru ac eraill sy'n ymwneud â darparu sgiliau, hyfforddiant a gwasanaethau cymorth DPP ar gyfer sectorau diwydiannau'r tir.

Ar ôl rhaglen lawn o gyflwyniadau a gweithdai grŵp, tasg gyfunol y rhai a oedd yn bresennol oedd helpu i nodi’r cyfleoedd a’r heriau y mae gweithwyr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth heddiw yn eu hwynebu, ac ystyried pa systemau cymorth sydd angen eu rhoi ar waith i annog cyflogwyr i hwyluso a gwobrwyo’r sgiliau, y datblygiad a’r cyfleoedd hyfforddiant i bawb yng ngweithlu'r sector gwledig.

Yn ystod y digwyddiad, rhannodd Dr. Nerys Llewelyn Jones, Cadeirydd Y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru, fanylion ‘galwad am dystiolaeth’ newydd a fydd yn helpu i lywio gwaith is-bwyllgor y panel wrth lunio strategaeth newydd ar gyfer datblygu sgiliau a hyfforddiant ar gyfer y sector gwledig yng Nghymru. Pwysleisiodd fod yr is-bwyllgor yn awyddus i glywed gan gynifer o randdeiliaid â phosibl.

“Mae’n hanfodol ein bod yn casglu cymaint o ddata a gwybodaeth ag y gallwn i sicrhau bod yr argymhellion rydym yn eu gwneud i Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar dystiolaeth, a’u bod yn adlewyrchiad gwirioneddol o anghenion y diwydiant,” meddai Dr. Llewelyn Jones, a ychwanegodd y bydd dull gweithredu integredig yn galluogi rhanddeiliaid i flaenoriaethu materion allweddol a helpu i ddod o hyd i atebion i unrhyw broblemau sy’n cael eu nodi. 

“Gallai hyn olygu mân newidiadau mewn rhai mannau, atebion mwy mewn mannau eraill, ond waeth beth yw’r gofyniad, byddwn yn defnyddio’r dystiolaeth a gesglir i greu gweledigaeth strategol y gall pawb ei chefnogi, sef gweledigaeth sy’n bragmataidd ac yn gyraeddadwy o ran ei dull gweithredu.” 

Ychwanegodd Dr. Llewelyn Jones y bydd y strategaeth newydd yn adlewyrchu’r pum cam allweddol yn natblygiad gyfra pob gweithiwr gwledig, sef eu profiad o’r ysgol, addysg uwch – gan gynnwys prentisiaethau – a dysgu gydol oes, yn ogystal â darpariaeth benodol ar gyfer newydd ddyfodiaid neu bobl ifanc. 

“Rhaid cydnabod a gwerthfawrogi sgiliau, egni a ffocws pob unigolyn sy’n gweithio, neu sy’n awyddus i weithio, yn y diwydiant. 

“Trwy weithio ar y cyd, gallwn alluogi pob un ohonynt i gael y wybodaeth, y dysgu a’r potensial o ran gyrfa a fydd yn helpu i ddiogelu dyfodol y sectorau amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth yng Nghymru.”  

Aeth y newydd-ddyfodiad ysbrydoledig Ernie Richards, sy’n aelod o fforwm Cenhedlaeth Nesaf yr NFU a chyn Ddysgwr y Flwyddyn Lantra, ar y llwyfan a siarad am y cyfleoedd a oedd wedi’u cael trwy gyfuniad o astudiaethau academaidd a darpariaeth hyfforddiant â chymhorthdal Cyswllt Ffermio. Anogodd ffermwyr ifanc eraill hefyd i ddefnyddio’r Storfa Sgiliau, sef adnodd cadw cofnodion ar-lein diogel Cyswllt Ffermio sy’n cadw ei nodau datblygiad personol ar y trywydd iawn.

Canolbwyntiodd Prys Morgan, Swyddog Caffael Da Byw y DU ar gyfer y gwneuthurwyr cynnyrch bwyd o Ferthyr, Kepak a Llŷr Lewis, rheolwr datblygu Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cymru, sy’n rhedeg cynllun FAWL (Cynllun Gwarant Fferm Da Byw), ill dau ar y diwydiant cig coch, gan bwysleisio’r angen i holl bartneriaid y gadwyn gyflenwi weithio ar y cyd gyda negeseuon clir, i sicrhau bod defnyddwyr yn cael tawelwch meddwl ynghylch materion hollbwysig gan gynnwys iechyd a lles anifeiliaid, gofynion amgylcheddol a’r risg na welwyd ei debyg o’r blaen o gynhesu byd-eang.  

“Mae ein diwydiant mewn sefyllfa dda yma yng Nghymru, gyda ffermio adfywiol a’r safonau iechyd anifeiliaid uchaf yn taro tant gyda llawer o brynwyr, ond mae gennym fwy i’w wneud i sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed a bod ein negeseuon yn glir.

“Mae angen i’n diwydiant fod yn arloesol ac yn ddeallus o ran technoleg gyda systemau cofnodi data ar waith i brofi ein cymwysterau ar draws pob maes gwaith.

“Rhaid hyfforddi ein gweithlu medrus i adlewyrchu gofynion y diwydiant, ei bartneriaid yn y gadwyn gyflenwi a defnyddwyr, yn awr ac yn y dyfodol, a dyna pam mae’n rhaid i ni barhau i weithio ar y cyd i gyflawni hyn,” meddai Mr Morgan, a esboniodd i’r cynadleddwyr pam mae Kepak yn buddsoddi’n helaeth mewn hyfforddiant ffurfiol a chyfleoedd datblygu gyrfaoedd sydd eisoes wedi arwain at fwy o gynhyrchiant, cadw mwy o staff a gwella morâl ymhlith y staff.

Daeth Dr. Llewelyn Jones â’r digwyddiad i ben, gan roi crynodeb o’r hyn a gyflawnwyd. 

“Mae’r gynhadledd heddiw yn ddechrau sgwrs newydd a fydd yn llywio’r ‘alwad am dystiolaeth’ yn well, gan dynnu pobl ynghyd i ystyried y rhwystrau, a sut y gellir eu goresgyn.

“Rhaid mai ein nod ar y cyd fydd hwyluso meysydd lle bydd dull gweithredu mwy cydgysylltiedig, cydweithredol yn helpu i greu llwybrau dilyniant cliriach i bawb sy’n ymwneud â’n sectorau diwydiannau’r tir.

“Cyhoeddir rhagor o wybodaeth ynghylch sut a phryd i gyflwyno adborth ar gyfer y ‘galwad am dystiolaeth’ maes o law, a hoffwn eich annog i gymryd rhan.”