Bydd apêl am roddion i helpu sefydliadau yn y sector gwirfoddol ymdopi drwy’r argyfwng costau byw yn elwa ar rodd o £1m gan Lywodraeth Cymru.

Mae 'Ein Cymunedau Gyda'n Gilydd – apêl argyfwng costau byw', a sefydlwyd gan Sefydliad Cymunedol Cymru mewn partneriaeth â Newsquest, yn cefnogi sefydliadau gwirfoddol ar lawr gwlad i dalu am gostau cynyddol, ac ar adeg pan fo’r galw am y gwasanaethau hynny'n cynyddu.

Bydd yr apêl yn darparu cymorth drwy grantiau o £2-5k fesul sefydliad, i'r sector gwirfoddol ar lawr gwlad, fel y gallant barhau i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys darparu help a chyngor; mynediad at fwyd, dillad ac eitemau hanfodol eraill; helpu gyda gofal plant; cymorth i bobl hŷn a llawer mwy.

Maen nhw'n wynebu mwy o alw a straen ar eu hadnoddau ar hyn o bryd. Mae ffigurau a ddarparwyd gan Gefnogi Trydydd Sector Cymru yn dangos bod nifer y sefydliadau sydd angen cymorth wedi codi o 2,457 yn 2018-19 i 4,317 yn 2020-21.

Mae'r duedd honno wedi parhau yn ystod tri chwarter cyntaf 2022-23, ac mae 3,850 o sefydliadau yn cael cymorth erbyn hyn.

Mae sefydliadau'r sector gwirfoddol wedi bod yn llenwi rhai o fylchau sefydliadau'r sector cyhoeddus wrth ddiwallu anghenion. A hynny oherwydd eu bod nhw nid yn unig yn delio â mwy o alw ar ôl y pandemig, ond hefyd mae'r argyfwng costau byw yn rhoi llawer ohonynt dan straen i gadw dau ben llinyn ynghyd a pharhau i ddarparu gwasanaeth.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a ymwelodd â Steps4Change i weld o lygad y ffynnon sut maent yn cefnogi pobl yn Butetown:

Fel cymdeithas rydyn ni’n fwyfwy dibynnol ar y sector gwirfoddol i ddarparu cymorth i’r bobl hynny yn ein cymunedau sydd fwyaf agored i niwed.

Maen nhw’n chwarae rôl hanfodol trwy gynnig cymorth gofal plant, banciau bwyd sy'n helpu aelwydydd i fwydo eu teuluoedd, a gwasanaethau sy’n rhoi cyngor ar sut gall pobl wneud y gorau o'u hincwm.

Rydyn ni'n falch y gallwn ni roi'r rhodd hon i 'Ein Cymunedau Gyda'n Gilydd - apêl argyfwng costau byw' a bydden ni’n annog sefydliadau eraill i wneud rhoddion eu hunain hefyd, gan y bydd y gronfa hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau ledled Cymru.

Mae Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – apêl argyfwng costau byw yn ceisio cael rhoddion i gefnogi sefydliadau bach ar lawr gwlad yn y sector gwirfoddol sy'n helpu pobl drwy galedi.

Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru, y byddai'r grantiau gan Ein Cymunedau Gyda'n Gilydd – apêl argyfwng costau byw yn blaenoriaethu cymorth i sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i helpu pobl sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, a phobl o gefndiroedd sydd â nodweddion gwarchodedig yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw.

Dywedodd:

Rydyn ni'n falch iawn o fod wedi derbyn y rhodd hael hon gan Lywodraeth Cymru ac rydyn ni'n gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o bobl i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth mawr i'r llu o bobl sy'n ei chael hi’n anodd ymdopi drwy'r argyfwng costau byw.

Os ydyn ni eisiau i'r grwpiau hyn barhau i fod yma ar ôl yr argyfwng hwn, mae angen i ni fel cymdeithas ddod at ein gilydd i'w cefnogi nhw. Dyna pam mae angen cymorth gan bobl a busnesau yng Nghymru nawr yn fwy nag erioed.

Bydd y grantiau o'r apêl hon yn gwneud llawer i sicrhau bod y sefydliadau sy'n cefnogi'r rhai sydd â’r angen mwyaf yn gallu parhau i wneud hynny nawr, ac yn y misoedd anodd sydd i ddod.

Mae Steps4Change yn darparu cymorth cymunedol i deuluoedd sy’n agored i niwed, sy’n cynnwys dosbarthu bwyd, a dyma'r math o sefydliad sy'n debygol o elwa ar Ein Cymunedau Gyda'n Gilydd – apêl argyfwng costau byw.

Wrth siarad yn ystod dosbarth coginio i blant yn y lleoliad yn Butetown, dywedodd Tony Ogunsulire, Cyfarwyddwr Steps4Change:

Mae'n gwella eu hyder a'u sgiliau cyfathrebu, ac yn rhoi sgiliau byw iddyn nhw y byddan nhw’n elwa ohonyn nhw wrth fynd yn hŷn.

Mae'n helpu i newid y ffordd y maen nhw’n meddwl am ffrwythau a llysiau, fel eu bod nhw’n fwy tebygol o goginio na chael tecawê.

Ychwanegodd:

Mae'n wych gweld bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i helpu diwallu anghenion y gymuned. Byddai'r cyllid hwn gan Sefydliad Cymunedol Cymru yn helpu i dalu ein costau fel ein bod ni’n gallu parhau i gynnig dosbarthiadau fel hyn.