PATCH Food Hub

Mae menter Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru, a arweinir gan PLANED, yn falch o lansio ei phedwaredd hwb bwyd yng ngorllewin Cymru fis Tachwedd. Mae'r prosiect yn annog gwirfoddolwyr a chwsmeriaid i gysylltu â chynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd er mwyn prynu bwyd ffres, sydd â gwerth gwych am arian.

Bydd yr hwb bwyd yn Aberdaugleddau yn lansio ddydd Mercher 30 Tachwedd am 12:00 yn Siop Elusen PATCH ar Charles Street, ac mae gwahoddiad agored i bawb ddod draw ar y diwrnod i gwrdd â'r tîm. Byddent wrth eu bodd yn clywed eich syniadau am yr hyn yr hoffech ei weld ar gael yn yr hwb yn y dyfodol.

Bydd yr hwb bwyd cymunedol yn Aberdaugleddau yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher, ac i ddechrau, bydd yn cynnig llysiau, ffrwythau a salad ffres i'w harchebu.

Dywedodd Dave Goulding, Cynrychiolydd PATCH, "rydym yn edrych ymlaen yn arw at fod yn rhan o'r fenter hon, gan ei bod yn galluogi trigolion lleol i fanteisio ar ffrwythau a llysiau sy'n cynnig gwerth arbennig am arian". Ychwanegodd, "drwy gydweithio â PLANED, rwy'n gobeithio ein bod yn gallu bod yn rhan o fwy o brosiectau fel hyn yn y dyfodol".

Mae’r prosiect hwn yn cael ei arwain gan PLANED, ac mae wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru.

Dysgwch fwy ar y wefan yma: https://www.communityfood.wales/