Ben Roberts giving a PGI Welsh Lamb butchery demonstration

Cafodd darpar gogyddion o goleg addysg bellach blaenllaw gipolwg ar Gig Oen Cymru PGI fel rhan o arddangosfa i ddangos sgil a thechneg cigydd. Yn dilyn y sesiwn, Cig Oen Cymru oedd seren pryd chwe chwrs ‘Great British Menu,’ wedi ei goginio gan y myfyrwyr eu hunain.

Roedd y digwyddiad coginio, a gynhaliwyd ym Mwyty ‘The Academy’ yng Ngholeg Dinas Lerpwl, yn rhan o ail ran gweithgaredd a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Hybu Cig Cymru (HCC).

Yn ystod rhan gyntaf y cydweithio nôl ym mis Hydref 2022, bu Rhaglen Datblygu Cig Coch HCC yn gweithio gyda’r Coleg trwy gynnal panel blasu defnyddwyr Cig Oen Cymru. Holodd Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru i 160 aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys staff a myfyrwyr y coleg, flasu a graddio Cig Oen Cymru PGI. Roedd yn rhan o brosiect ymchwil i weld sut mae blas y gwahanol doriadau cig oen, dulliau hongian y carcas, pecynnu a blas cig oen gwrywaidd yn effeithio ar dynerwch, suddlonder, blas ac arogl y cig.

Yn ystod y gweithgaredd gyda’r myfyrwyr yng Ngholeg Dinas Lerpwl cafwyd arddangosfa gan gigydd ar sut i dorri carcas Cig Oen Cymru er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth myfyrwyr o'r amrywiaeth o doriadau sydd ar gael a sut y gallent greu prydau blasus. Holwyd hefyd i'r myfyrwyr feddwl am yr elfennau manwerthu wrth fynd a Chig Oen Cymru i’r farchnad ar gyfer cwsmeriaid.

Arweiniwyd y sesiwn gan y cigydd arbennig sydd wedi ennill gwobrau lu, Ben Roberts, ac aeth y myfyrwyr ymlaen i baratoi’r cig oen fel prif gwrs mewn digwyddiad gyda’r nos ym mwyty’r Coleg gan ddilyn y thema ‘Great British Menu.’

Dywedodd cynrychiolydd y Coleg a’r Cogydd Gweithredol, Ian Jaundoo: 

“Roedd Bwyty The Academy yng Ngholeg Dinas Lerpwl yn falch iawn o groesawu’r Cigydd amryddawn o Gymru, Ben Roberts, i roi arddangosfa broffesiynol ac addysgiadol o ymdrin â charcas Cig Oen Cymru i’n myfyrwyr coginio proffesiynol Lefel 2 a 3.

“Roedd defnyddio’r cig fel rhan o’r prif gwrs yn ein cegin yn brofiad gwych i’r myfyrwyr a gwnaeth y cwsmeriaid sylwadau cadarnhaol iawn am dynerwch a blas hyfryd y cig oen Cymreig.”

Dywedodd Dr Eleri Thomas, Swyddog Gweithredol Ansawdd Cig HCC: 

“Mae gweithio gyda’r Coleg wedi rhoi cipolwg gwych i ni ar farn pobl am Gig Oen Cymru. Dim ond rhan o’r stori yw Lerpwl, gan ein bod wedi teithio ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol yn ystod oes y prosiect, gan holi bron i 2,000 o ddefnyddwyr rannu eu barn am Gig Oen Cymru yn ystod ein paneli blasu. Mae bron i 13,500 darn o Gig Oen Cymru wedi ei flasu, gyda 64 o ffermydd ledled Cymru yn cyflenwi cig i ni.

“Mae dod â myfyrwyr Coleg Dinas Lerpwl i gydweithio â ni wedi rhoi cyfle i ni roi rhywbeth yn ôl i’r genhedlaeth nesaf o gogyddion, a gobeithio rhywfaint o brofiad o ddefnyddio a pharatoi cynnyrch Cymreig o safon. Rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran am eu brwdfrydedd a’u cefnogaeth.”

Mae Cynllun Ansawdd Cig Oen Cymru yn un o dri phrosiect pum mlynedd o fewn y Rhaglen Datblygu Cig Coch, a ariennir gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, trwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.