Ffermwr mewn cae gyda diadell o ddefaid

Mae Cynllun sy’n buddsoddi mewn ffermio defied ucheldir wedi lansio menter newydd i gefnogi ffermwyr wrth asesu’r effaith y gall hyrddod â mynegai genetig uchel ei gael ar ddiadell mynydd masnachol.

Mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd, a arweinir gan Hybu Cig Cymru (HCC) wedi croesawu dau ffermwr ar y Cynllun yn ddiweddar fel Diadell Perfformiad Masnachol. Mae’n un elfen o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch - menter 5-mlynedd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

Nod y Diadelloedd Perfformiad Masnachol yw arddangos gwerth defnyddio hyrddod â photensial genetig uchel a monitro perfformiad y ddiadell ar y fferm. Bydd monitro’r perfformiad yn helpu gyda penderfyniadau dewis mewn diadelloedd mynydd yn y dyfodol.

Maw dau fferm wedi ymuno â’r fenter hon ac mi fyddant yn cymharu ŵyn o hwrdd â chofnodion perfformiad gydag ŵyn o hwrdd stoc heb gofnodion. Nod yr elfen bwysig hon yw dadansoddi gwerth cofnodi perfformiad diadell a’r buddion mae gwella genetig yn ei gael ar ddiadell ddefaid masnachol.

Mae Ian Rickman yn ffermio mamogiaid Pengwyn Llamymddyfri ym Methlehem ger Llandeilo gyda’i deulu. Mae’r fferm tua 200 erw gydag hawliau pori cyffredin ar y Mynydd Du. Mae Ian wedi bod yn cofnodi perfformiad y defaid ar y fferm o’r blaen a defnyddir hwrdd croesfri â mynegai uchel ar ddefaid yr iseldir.

Dywedodd Ian,

“Mae bod yn Ddiadell Perfformiad Masnachol ar y Cynllun Hyrddod Mynydd yn fy nghaniatau i archwilio buddion prynu hwrdd â mynegai uchel a'u rhoi ar brawf gyda diadell mynydd masnachol.

“Fy nod hirdymor yw i gynhyrchu ŵyn yn gynt ac yn drymoach ar borfa, heb gyfaddawdu ar y ddiadell famog.”

Mae Rhodri Jones a’i deulu yn ffermio Brynllech, fferm ddefaid a gwartheg eidion yn Llanuwchllyn. Mae’r fferm yn codi o 900 troedfedd ar ffald y fferm i 1,650 troedfedd ar dop Mynydd Bynllech sy’n fynydd caeedig ar y fferm.