New benchmarking programme for pigs

Gall cynhyrchwyr moch yng Nghymru bellach feincnodi perfformiad eu busnes gan ddefnyddio rhaglen gyfrifiadurol bwrpasol am ddim a ddatblygwyd gan Menter Moch Cymru a Cyswllt Ffermio.

Wedi’i chynllunio ar gyfer pob math o fentrau moch, y rhaglen ddwyieithog ‘Mesur i Reoli’ yw’r gyntaf o’i bath ac mae’n galluogi cynhyrchwyr moch – ar raddfa fach neu fawr – i ddadansoddi perfformiad eu busnes.

Mae ‘Mesur i Reoli’ yn galluogi cynhyrchwyr yng Nghymru i feincnodi eu busnes drwy gofnodi eu mewnbynnau, eu hallbynnau, a pherfformiad y genfaint dros gyfnod penodol.

Mae'r rhaglen gyfrifiadurol hawdd ei defnyddio yn dadansoddi'r data yn seiliedig ar dargedau a dangosyddion perfformiad allweddol (DPA) megis niferoedd stoc a phrisiad, pryniannau a gwerthiannau, data perfformiad a chostau rhedeg.

Ar gyfer cenfeiniau bridio, mae'r DPA yn cynnwys cyfraddau porchella, diwrnodau anghynhyrchiol, neu nifer y perchyll sy'n cael eu geni, eu diddyfnu a'u gwerthu. Er bod dadansoddiad yr adran besgi yn cynnwys cynnydd pwysau byw dyddiol, diwrnodau tan orffen pesgi cyfartalog a chymhareb trosi porthiant.

Gellir defnyddio’r data i ddarparu cymhariaeth flwyddyn ar ôl blwyddyn, neu i gymharu’n ddienw â mentrau moch eraill, er mwyn helpu i nodi cryfderau a gwendidau busnes.

Dywedodd Swyddog Datblygu Menter Moch Cymru, Lauren Smith, “Mae Mesur i Reoli yn arf defnyddiol ar gyfer cadw ar ben y gost o gadw moch a’r allbwn ar y diwedd. Mae cadw ar ben costau yn hanfodol i redeg menter foch broffidiol, yn enwedig ar adeg pan fo costau mewnbwn yn uchel, oherwydd os na allwch ei fesur, ni allwch ei reoli.”

Recording sheet - Menter Moch Cymru

Hefyd, mae Menter Moch Cymru wedi dylunio llyfr casglu data i helpu cynhyrchwyr i fewnbynnu’r data i’r rhaglen ‘Mesur i Reoli’. Mae cynllun y llyfr yn adlewyrchu tudalennau’r rhaglen, gan wneud trosglwyddo data yn gyflym ac yn hawdd.

Mae’r cynhyrchydd moch o Gaerdydd, Ethan Williams, wedi bod yn defnyddio rhaglen ar-lein ‘Mesur i Reoli’ Menter Moch Cymru a Cyswllt Ffermio. Dywed fod y rhaglen a'r llyfryn wedi bod yn amhrisiadwy o ran ei helpu i reoli'r data sy'n gysylltiedig â'i fusnes moch.

Dywedodd Ethan, “Roeddwn wedi bod yn rhoi’r holl rifau i mewn i Excel, ond gyda ‘Mesur i Reoli’, mae popeth yn llawer cliriach ac amlwg - fel faint o bwysau mae’r stoc wedi’i ennill. Mae wedi gwneud popeth yn llawer mwy effeithlon.”

Dywedodd Lauren Smith, “Gall unrhyw un sydd eisiau rhagor o wybodaeth neu gyngor ar sut i ddefnyddio ‘Mesur i Reoli’ gysylltu â Menter Moch Cymru (01970 636285) neu Cyswllt Ffermio (08456 000813). Mae yna hefyd fideo Youtube o sut i gadw cofnodion: https://www.youtube.com/watch?v=B1iSNN93mi0

Ariennir prosiect Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.