WCFD

Aeth tîm PLANED tua'r gogledd i'r Sioe Arloesi Busnes Fferm a gynhaliwyd yn yr NEC Birmingham yr wythnos hon i hyrwyddo un o'i brosiectau bwyd cyffrous presennol "Gwerthu Cymunedol Ffres Sir Benfro".

Bu PLANED yn llwyddiannus yn derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Drwy weithio gydag EEM Farming Solutions Ltd bydd Gwerthu Cymunedol Ffres Sir Benfro yn dod â dau beiriant gwerthu bwyd ffres i Sir Benfro yn ystod y misoedd nesaf, gan stocio nwyddau a chynnyrch wedi ei gyrchu'n lleol. Fodd bynnag, mae'r tîm PLANED yn awyddus i glywed gan unrhyw gynhyrchwyr a chyflenwyr lleol eraill sy'n dymuno ymgysylltu ac ystyried allfa bellach ar gyfer eu cynnyrch yma yng Ngorllewin Cymru. 

Tra bod nifer o bobl yn gyfarwydd â'r peiriannau gwerthu llaeth llwyddiannus yn yr ardal, bydd hyrwyddo gwerthu bwyd ffres yn arloesedd newydd, yn enwedig i Sir Benfro. Mae hwn yn fodel y mae PLANED a'i bartneriaid ehangach, yn awyddus i'w dreialu, gweld sut y gallant gynorthwyo cymunedau drwy ddarparu model dosbarthu hyblyg, cynhwysol, amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy, sy'n dod â chymunedau, cynhyrchwyr bwyd a chyflenwyr ynghyd.

Roedd arddangos y peiriant gyda brandio PLANED a Sir Benfro i'r 20,000 o ymwelwyr yn y Sioe Arloesi yn yr NEC yn gyfle gwych i hyrwyddo a oedd yn cael ei werthfawrogi'n llwyr gan y tîm.

Nododd Sue Latham, Cydlynydd Prosiect y Prosiect Gwerthu "Roedd gweld yr offer gyda'n brandio ni arnynt, a thrafod a hyrwyddo gyda'r mynychwyr y Sioe yn yr NEC yn sicr wedi arwain at nifer o gamau dilynol cadarnhaol. Rydym bellach hyd yn oed yn fwy cyffrous ynghylch gosod y peiriannau gwerthu yn ystod y misoedd nesaf ac i weithio gyda phartneriaid ar draws ein cymunedau i osod y peiriant arall yn y flwyddyn newydd."

Am ragor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â'r tîm drwy WCFD@Planed.org.uk