Llanwrtyd event Dwr

Daeth mwy na 60 o bobl leol i ddigwyddiad cymunedol yn Neuadd Fictoria Llanwrtyd, i ddarganfod sut mae sefydliadau’n cydweithio i warchod bioamrywiaeth dwr croyw yn nhalgylch afon Irfon.

A redir gan yr elusen cadwraeth bywyd gwyllt Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dwr Croyw, daeth digwyddiad cymunedol a ariannwyd gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy (CRC) Irfon a siaradwyr ynghyd o sefydliadau gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Dwr Cymru, Ymddiriedolaethau Natur Cymru a sefydliad Gwy a’r Wysg.

Drwy gydweithio, mae prosiect Irfon (CRC) yn datblygu dull newydd o reoli bioamrywiaeth dwr croyw a gwlyptir ar raddfa tirwedd, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio’r Irfon fel talgylch arddangos.

Geraint Watkins, ffermwr lleol, coedwigwr a chadeirydd prosiect Cynefinoedd Dwr Croyw Gwydn Dalgylch Irfon oedd cadeirydd y cyfarfod. Dywedodd “Gyda’r pwysau cynyddol ar ansawdd dwr ym mhon afon mae angen i ni ddeall yn well lle mae’r problemau ar yr Irfon. Mae hyn yn cynnwys sicrhau ein bod yn monitro mewnbwn pawb ac nid yn gwneud rhagdybiaethau”.

Llanwrtyd event

Bu Katie Fincken-Roberts o Gyfoeth Naturiol Cymru yn rhannu mewnwelediad ynghylch pam mae’r Fisglen Berlog Dwr Croyw – rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol sy’n dal i fodoli yn yr Irfon – yn ddangosydd o iechyd dwr. Cafwyd diweddariad gan Dan Humphreys o Dwr Cymru ar seilwaith a gwaith monitro’r cwmni yn nhalgylch Irfon. Siaradodd cynrychiolydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Jake Cohen am waith adfer mawndir ar gomin Abergwesyn ym mlaendyfroedd y dalgylch a thynnodd Bridie Whittle o Sefydliad Gwy ac Wysg sylw at bwysigrwydd gweithio ar lefel dalgylch.

Llanwrtyd event2

Rhannodd PSG Cynefinoedd Dwr Croyw, Yr Athro Jeremy Biggs ac Uwch Ecolegydd Planhigion David Morris, ganlyniadau o waith yr elusen yn nalgylch Irfon dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn wedi cynnwys profi ansawdd dwr, gan gynnwyd gwirfoddolwyr lleol a monitro rhywogaethau, gan ddefnyddio’r technegau eDna diweddaraf.

Tynnodd Jeremy sylw at bwysigrwydd yr amgylchedd dwr cyfan, gan gynnwys yr holl gyrff dwr rhedeg a llonydd, mawr a bach. Dywedodd “Nid yn unig yr afon Irfon a’i llednentydd yw dalgylch Irfon ond hefyd y rhwydwaith enfawr o byllau, nentydd a gwlypdiroedd sy’n ymledu ar draws y dirwedd. Mae angen i ni drin y cynefinoedd hyn fel rhwydwaith rhyng-gysylltiedig, gan wneud defnydd o’r dystiolaeth orau o’r hyn sy’n gweithio i’w hamddiffyn.

Dyfroedd bach yw tua 80% o amgylchedd dwr croyw’r DU ac mae ymwybyddiaeth gynyddol o’u pwysigrwydd. Mae ymchwil wedi dangos eu bod, gyda’u gilydd, yn cefnogi’r bioamrywiaeth, gan gynnwys niferoedd uwch o rywogaethau prin ac o dan fygythiad, nag afonydd neu lynnoedd.

“Yn anffodus nid oes gennym lawer o wybodaeth, os o gwbl, am y mwyafrif o’r cyrff dwr hyn, felly mae’n anodd nodi a diogelu rhannau pwysicaf y rhwydwaith hwn o gynefinoedd. Fodd bynnag, mae prosiect Irfon yn ein helpu i ddeall mwy am yr hyn y gallwn ei wneud i warchod cymuned bywyd gwyllt dwr croyw eithriadol y dirwedd hon. Mae hefyd yn chwarae rhan yn ein gweledigaeth i adeiladu’r Rhwydwaith Dwr Croyw – rhwydwaith o gynefinoedd dwr croyw mwy gwyllt, gwlypach, glanach a mwy cysylltiedig ar gyfer bywyd gwyllt ledled Lloegr a Chymru."


Ariennir prosiect afon Irfon drwy grant Cynllun Rheoli Cynaliadwy fel rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru o dan Raglen Datblygu Gwledig Cymru (2014-2020), a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

Cynhaliwyd digwyddiad cymunedol a ariannwyd gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy Irfon ar 23ain o Chwefror.