Beth a Tom Pendre

 

Mae un o bodlediadau Cyswllt Ffermio wedi helpu teulu fferm o Gymru i lansio menter casglu eich pwmpenni eich hun, gan greu ffrwd incwm newydd i’w busnes.  

Croesawodd y ffermwyr defaid Tom a Beth Evans y cwsmeriaid cyntaf i’w fferm y penwythnos hwn, wrth i Pwmpenni Pendre agor ei drysau.

Maen nhw bellach wedi datgelu bod pennod o bodlediad Clust i’r Ddaear Cyswllt Ffermio, a roddodd gyngor allweddol ynghylch sut i sefydlu busnes casglu eich pwmpenni eich hun, wedi chwarae rôl hanfodol, nid yn unig wrth lansio’r fenter, ond hefyd o ran darparu cymorth rhithiol.

“Buon ni’n gwrando ar y podlediad hwn drosodd a throsodd,” meddai Beth. “Ar adegau pan roedden ni’n teimlo’n ansicr neu pan oedd yn amheus gennym, bydden ni’n gwrando arno eto, ac roedd hynny’n rhoi’r sicrwydd i ni barhau.”

Mae’r fenter arallgyfeirio wedi’i sefydlu yn Fferm Pendre, daliad 24-erw yn Llanfihangel y Creuddyn, Aberystwyth, sydd hefyd yn un o Safleoedd Arddangos Cyswllt Ffermio.  

Caiff Cyswllt Ffermio, a gyflwynir gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Yma, mae ganddynt ddiadell gaeedig o 480 o famogiaid sy’n gymysgedd o famogiaid Miwl wedi’u croesi, mamogiaid Cymreig Tregaron wedi’u gwella a mamogiaid Penfrych Cymreig.  

Ar gyfer eu menter newydd, fe wnaeth Cyswllt Ffermio hefyd gamu i'r adwy gyda phecyn gwerthfawr o gefnogaeth pan oedd ei angen ar y cwpl.

Cymeron nhw fantais ar gymhorthfa un-ac-un a chyngor mentora gan Gary Rees, un o fentoriaid Cyswllt Ffermio. 

“Roedd y pethau hyn i gyd, gyda’i gilydd, yn gwneud i ni fynd amdani, ac rydyn ni mor falch ein bod ni wedi’i wneud.''

Yn ogystal â chefnogaeth gan Cyswllt Ffermio, cafwyd cymorth gan y corff cymorth garddwriaethol, TyfuCymru, i greu system archebu a gwefan, a chyngor gan Chris Creed o ADAS.   

Mae’r teulu Evans bellach yn rhan o grŵp tyfwyr. “Mae hyn yn wych ar gyfer rhwydweithio a rhannu syniadau a datrys problemau,” meddai Beth.  

Mae'n cyfaddef ei bod hi’n llawn cyffro am groesawu ymwelwyr i'w menter newydd.

Mae pennod newydd o’r podlediad Clust i’r Ddaear yn cael ei rhyddhau bob pythefnos ac mae'n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.