Flock of ewes

Mae cynllunio ar gyfer bwydo a rheoli mamogiaid cyfeb yn hollbwysig yn ystod chwe wythnos olaf beichiogrwydd, gyda ffermwyr yn cael eu rhybuddio bod gwneud pethau’n anghywir yn peryglu twf a datblygiad y ffetws, hyd yn oed ffrwythlondeb ŵyn cyn eu geni yn y dyfodol.

Dywed y milfeddyg Phillipa Page, sy’n parhau i gynghori ffermwyr mewn cyfres o weithdai Cyswllt Ffermio ar faeth y famog, a gynhelir ledled Cymru fod gofyniad y famog am egni a phrotein yn cynyddu’n gyflym ar ddiwedd beichiogrwydd gan fod tua 70% o dyfiant y ffetws yn digwydd yn ystod y cyfnod hwn.

Mae lefelau egni'r porthiant yn llywio pwysau geni ŵyn, ac mae protein yn sail i safon a faint o golostrwm a gynhyrchir, sef y porthiant sy’n “paratoi’r cig oen am oes’’.

Rhybuddiodd Ms Page, o Flock Health Ltd, fod angen trosglwyddo’r famog o laswellt wedi’i bori i ddogn dan do yn araf ac yn ofalus, fel arall ni fydd yn gallu treulio’r porthiant hwnnw, gan arwain at broblemau gyda’r system dreulio, achosi clefydau metabolaidd, colostrwm o safon wael a llai o gynnyrch llaeth.

“Gallwn achosi’r rhain trwy gamgymeriad oherwydd nid yw defaid yn hoffi newidiadau yn eu diet, mae'n cynhyrfu'r microbau yn eu rwmen.''

O ganlyniad, bydd yn colli cyflwr corff a gall hyn gael effaith andwyol ar yr oen cyn ei eni gan effeithio ar y berthynas rhwng y famog a’r oen a’i gallu i fagu’r oen a chynhyrchu’r swm digonol o golostrwm o safon sydd ei angen i atal clefydau a all effeithio ar y newydd-anedig, megis ceg ddyfrllyd.

Bydd effaith ar safon a faint o golostrwm a gynhyrchir hefyd. “Os nad yw'r famog yn y cyflwr iawn mi fydd hi'n cael trafferth i'w gynhyrchu,” nododd Ms Page.

Ar adeg hwrdda, targedwch sgôr cyflwr corff (BCS) o 2.5 ar gyfer bridiau mynydd a 3.5 ar gyfer mamogiaid llawr gwlad, i sicrhau eu bod mewn cyflwr digonol ar adeg ŵyna.

Mae Ms Page yn argymell dadansoddi porthiant o ran y safon, sy'n bwysicach nag erioed o ystyried cost uchel porthiant ychwanegol.

“Mae angen i ni fod yn gallach am yr hyn rydym ni'n ei fwydo, os yw'n borthiant da ni fydd angen cymaint o borthiant ychwanegol ar y famog.''

Y ffigwr mwyaf arwyddocaol i ffermwyr defaid yw treuliadwyedd - y gwerth D. Yn ddelfrydol dylai fod yn 65 neu'n uwch, sy'n fwy tebygol mewn silwair sydd wedi’i dorri yn gynharach yn y tymor pan fo'n cynnwys llawer o egni ac nid yw’n rhy goesog.

Anelwch at egni metabolaidd (ME) o 11 MJ/kg DM, meddai Ms Page.

Dylai canran protein crai fod tua 13% - dangosodd prosiect colostrwm Cyswllt Ffermio yn 2021 y bydd unrhyw ffigwr is yn golygu y bydd y famog yn cael trafferth cynhyrchu colostrwm o safon ddigonol.

Targedwch ddeunydd sych (DM) sy'n uwch nag 20%, ond os yw'n rhy uchel gall y porthiant lwydo oherwydd bod yr eplesiad yn wael.

Mae cynnwys lludw yn arwydd o halogiad pridd – os yw’n uwch na 10% gall listeria fod yn risg.

Mae'r lefel pH yn ffigwr pwysig hefyd - 4 i 5 ddylai’r targed fod oherwydd gall unrhyw ffigwr is effeithio ar flasusrwydd ond gall ffigwr uwch achosi risg o listeria.

Bydd ansawdd y silwair yn pennu faint o borthiant ychwanegol sydd ei angen.

Rhaid i'r porthiant ychwanegol hwnnw fod yn 12.5MJ/kgDM o leiaf. “Mae'n rhaid iddo fod â gwerth egni uwch na'r porthiant neu nid oes pwynt ei fwydo,'' meddai Ms Page.

Mae'r rhestr o gynhwysion ar borthiant bob amser yn ymddangos mewn trefn ddisgynnol, gyda'r cynhwysyn â'r gyfradd cynhwysiant uchaf ar y brig. Chwiliwch am rawnfwydydd o safon megis grawn cyflawn, haidd, india corn, gwenith a phrotein o safon, megis blawd had rêp a ffa.

Dywedodd Ms Page fod lle mewn rhai systemau ar gyfer bwcedi a blociau ond na ddylid byth eu defnyddio yn lle porthiant, ac eithrio weithiau i roi ychwanegiad i famogiaid sy'n cario ŵyn sengl; gall cymeriant unigol o'r blociau amrywio'n fawr.

Wrth i famog agosáu at ŵyna, bydd hi’n symud cyflwr ei chorff yn gorfforol i gyflenwi protein ac egni iddi hi ei hun.

“Nid oes angen i’r cyfan ddod o’r diet, os yw’r famog â chyflwr corff cywir gall dynnu ar ei chronfeydd wrth gefn ond os nad yw, bydd perygl y bydd sgôr cyflwr corff y famog yn llawer is a bydd y famog yn cael trafferth cynhyrchu digon o golostrwm a llaeth a bydd mewn perygl o gael mastitis,'' meddai Ms Page.

Gall y golled hon yng nghyflwr y corff hefyd effeithio ar ffrwythlondeb yn y dyfodol.

Nid yn unig beth sydd mewn porthiant y famog gyfeb sy'n bwysig ond sut y caiff ei gyflwyno.

Os yw'r porthiant yn cael ei roi mewn cafnau, mae angen digon o le - mae Ms Page yn argymell 45-50cm ar gyfer mamogiaid 70kg sy'n cael eu bwydo ddwywaith y dydd neu 15cm y famog ar gyfer porthiant di rwystr Dogn Cymysg Cyflawn (TMR).

Os ydych yn defnyddio porthwyr cylch, sicrhewch fod gan famogiaid fynediad i ddiamedr cyfan y porthydd neu ystyriwch ddarparu porthydd ychwanegol os oes angen.

“Ar gyfer ŵyna llwyddiannus, rydych chi am wneud porthiant mor hawdd â phosibl i'r famog gyfeb ei gael fel ei bod yn cael digon,'' meddai Ms Page.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu digwyddiad ar y pwnc hwn mae’r dyddiadau a'r lleoliadau canlynol ar gael. Bydd angen i chi neilltuo lle a gellir gwneud hynny drwy ffonio Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813.

Iechyd Anifeiliaid - Pwysigrwydd Maeth mewn Defaid (19:30-21:30)

  • 16 Tachwedd 2023 - Elephant and Castle Hotel, Y Drenewydd, SY16 2BQ
  • 21 Tachwedd 2023 – Gwesty Glen-Yr-Afon House, Brynbuga, NP15 1SY
  • 06 Rhagfyr 2023 – Clwb Rygbi Dolgellau, Dolgellau, LL40 1UU
  • 12 Rhagfyr 2023 – Clwb Rygbi Crymych, Pros Kairon, Crymych, SA41 3QE

Bwydo'r ddiadell i sicrhau'r perfformiad gorau posibl (19:00-22:00)

  • 21 Tachwedd 2023 - Canolfan Creuddyn, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7BN
  • 30 Tachwedd 2023 - Marchnad Dda Byw Sir Fynwy, Bryngwyn, Raglan, NP15 2BH

Maeth y mamogiaid cyn ŵyna gyda Kate Phillips, siediau defaid gyda slatiau a lleihau'r defnydd o wrthfiotigau yn Marchynys, Ynys Môn. (13:00-15:00) 

  • 13 Rhagfyr 2023 - Fferm Marchynys, Penmynydd, Ynys Môn, LL61 6PG