canal surrounded by green fields

Ymunwch â ni am daith dywys ar hyd Camlas Maldwyn i fwynhau’r bywyd gwyllt a darganfod pam fod y ddyfrffordd hon yn gymaint o hafan i natur

Dyddiad: Dydd Sul 14 Mai 2023
Amser: 10:00am - 13:00

Ynglŷn â'r digwyddiad:

Ydych chi’n caru byd natur? Ai crwydrwr ydych sy’n mwynhau cerdded i ddarganfod Cymru? Os felly, bydd y daith dywys hon ar hyd glannau Camlas Maldwyn gyda’i chyfoeth o fywyd gwyllt yn ddelfrydol ichi.

Oherwydd bod teithiau tywys am ddim y llynedd ar hyd Camlas Trefaldwyn mor boblogaidd, rydym yn cynnal dau ddigwyddiad arall am ddim yn ystod Gwanwyn 2023.

Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn sy’n eu trefnu fel rhan o’r prosiect Camlesi, Cymunedau a Lles; byddant yn cael eu harwain gan Andy Davies, sy’n brofiadol o ran arwain teithiau cerdded lleol, ac sy’n angerddol am gadwraeth.

Yn addas ar gyfer pob oed a gallu, bydd y teithiau hamddenol hyn yn ddelfrydol er mwyn dysgu pam mae’r ddyfrffordd hon mor arbennig ar gyfer bywyd gwyllt, ac i ddarganfod ffeithiau diddorol am adar, mamaliaid ac amffibiaid penodol sy’n ei defnyddio, yn ogystal â mwynhau natur wrth gerdded mewn ardal mor hardd.

Cynhelir y teithiau cerdded hyn diolch i’r Prosiect Camlesi, Cymunedau a Lles.  Mae’r prosiect yn rhedeg tan 31 Mai 2023, a Thîm Hamdden a Mynediad at Gefn Gwlad Cyngor Sir Powys sy’n arwain y prosiect cydweithredol hwn, trwy weithio mewn partneriaeth gyda Glandŵr Cymru, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Bydd y gweithgaredd yn gweddu i fentrau eraill sy’n cael eu cyflenwi gan sefydliadau partner, ac mae’n derbyn cefnogaeth trwy gronfa Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei chyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Archebu
Rhif ffôn - 01938 555654

E-bost - charlotte@montwt.co.uk