Oes gennych chi ddiddordeb yn nyfodol economi a bywyd cefn gwlad Cymru?
Os felly, rydym yn eich gwahodd i ddysgu mwy am Arsyllfa, melin drafod sydd yn ymroddedig i ddatblygu arloesi a dulliau newydd o feddwl i gefn gwlad Cymru. Mae Arsyllfa yn ymchwilio a hyrwyddo diweddariadau o randdeiliaid allweddol gan archwilio syniadau sy’n torri tir newydd ac ymchwil ehangach sy’n datblygu syniadau newydd. Maent yn ceisio datblygu safbwyntiau newydd gall lywio’r modd y mae pobl yn byw a gweithio yn y Gymru wledig.
Er mae ond megis dechrau mae Arsyllfa, maent yn rhannu straeon newyddion a blogiau unigryw o ar draws cefn gwlad Cymru a thu hwnt, gyda’r nod pennaf wedi ei osod ar geisio ysgogi dulliau newydd o feddwl ynghylch:
- Bwyd a diod: sut mae Cymru yn cynhyrchu a gwerthu ei nwyddau, gan bwysleisio sefydlu cadwyni cyflenwi cynaliadwy ynghyd a masnachu rhyngwladol.
- Ein hafonydd: mynd i’r afael a’r heriau sy’n wynebu afonydd Cymru, o newid hinsawdd i fioamrywiaeth.
- Ysbryd mentrus: ymchwilio ffyrdd o feithrin cenedl sy’n fentrus a chydweithredol.
- Tlodi cefn gwlad: deall cymhlethdodau a ffactorau amrywiol cysylltiedig y pwnc hynod bwysig hwn.
- Iaith a diwylliant: gofyn sut gallwn helpu greu cenedl sy’n llythrennog yn ddiwylliannol, er mwyn siapio’n dyfodol mewn modd trawiadol.
Am ddiweddariadau wythnosol meddylgar, tanysgrifiwch i gylchlythyr Arsyllfa, dilynwch nhw ar Twitter / X @arsyllfa.