Codi ymwybyddiaeth o rywogaethau ymledol a’u heffeithiau yng Nghymru.

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yng Nghymru yn lansio ymgyrch cenedlaethol newydd ar draws Cymru o’r enw ‘Ymledwyr Ecosystem Invaders’, sydd yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio yn ystod Wythnos Rhywogaethau Ymledol (16 - 22 Mai) yng Ngardd Botaneg Genedlaethol Cymru yng Nghaerfyrddin ar 22 Mai. Mae'r ymgyrch yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o rywogaethau ymledol a’u heffeithiau yng Nghymru trwy ymgysylltu gyda’r cyhoedd.

Mae llawer ohonom wedi clywed am yr her ddeuol sy’n wynebu ein planed: yr argyfwng bioamrywiaeth a hinsawdd. Mae bosib bod llawer llai o ymwybyddiaeth o rywogaethau anfrodorol ymledol (rhywogaethau ymledol). Mae hyn er y ffaith bod rhywogaethau ymledol yn cael eu cysidro fel un o’r ‘prif bump’ achos dirywiad ym myd natur, ac mae posib iddynt fod yn fwy o broblem oherwydd newid hinsawdd.

Dywedodd Tomos Jones, Rheolwr Prosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN II) yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru:

“Mae rhywogaethau ymledol yn cael eu cysidro fel un o’r ‘prif bump’ achos dirywiad ym myd natur ar draws y byd.” Ychwanegodd: “Gallent ledaenu yn sydyn a dominyddu ecosystemau cyfan, gan gystadlu’n well na phlanhigion ac anifeiliaid brodorol a’u peryglu. Dyma pam mae’r ymgyrch yn mor bwysig.”

Mae enghreifftiau o rywogaethau ymledol yn cynnwys y wiwer lwyd (Sciurus carolinensis), Jac y neidiwr (Impatiens glandulifera) a Chacwn Asiaidd (Vespa velutina), sydd yn Rhywogaeth Rhybudd.

Dywedodd Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd: 

“Mae rhywogaethau anfrodorol ymledol yn bygwth yr amgylchedd, yr economi, ein hiechyd a'r ffordd rydym yn byw. Mae Wythnos Rhywogaethau Ymledol yn gyfle i amlygu a diolch y cannoedd o wirfoddolwyr sydd yn mynd i’r afael a rhywogaethau ymledol phob blwyddyn.

“Dwi’n croesawu lansiad yr ymgyrch ‘Ymledwyr Ecosystem Invaders’ fel rhan o brosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru fydd yn helpu codi ymwybyddiaeth o rywogaethau ymledol a’u heffeithiau ar draws Cymru.

“Mae’n holl bwysig ein bod yn parhau i gyd weithio i drechu’r bygythiad critigol yma i ein bioamrywiaeth.”

Mi fydd yr ymgyrch ‘Ymledwyr Ecosystem Invaders’ yn ymgysylltu gyda dau brif gynulleidfa: garddwyr a phobl sydd yn mwynhau gweithgareddau hamdden dŵr, megis canŵwyr. Mi fyddwn yn eu hannog i adduno i drechu rhywogaethau ymledol yng Nghymru. Dywedodd Tomos Jones: “Mi fydd y rheini sydd yn arwyddo ein haddewid yn derbyn cymorth ac argymhellion ar sut i daclo rhywogaethau ymledol yng Nghymru gan gynnwys ar fioddiogelwch, cyfleoedd gwirfoddoli a sut i adnabod a chofnodi rhywogaethau ymledol yng Nghrymu. Gydag ymdrech ar y cyd gallwn drechu'r bygythiad hwn ac amddiffyn bioamrywiaeth brydferth Cymru.”

Mae’r ymgyrch hwn yn rhan o brosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN II) ar draws Cymru sy’n cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

I ddarganfod mwy am ein ymgyrch ac i arwyddo ein haddewid, ewch i’n wefan: wtru.st/ecosystem-invaders.