- Lleoliad:
-
Ynys Môn
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£39930.00
Trwy EIP Wales, mae grŵp o ffermwyr o Ogledd Cymru yn anelu at wneud y mwyaf o elw ffermydd trwy gyflymu cynnydd eu buchesi llaeth wrth fridio.
35% yw dibynadwyedd etifeddu nodweddion o’r mynegai pedigri traddodiadol. Trwy ddefnyddio profion genomig i fesur DNA ar gyfer cynhyrchu, math, ffrwythlondeb a nodweddion iechyd gall hyn gynyddu’r dibynadwyedd i 70%.
“Bydd symud y datblygiad modern hwn i raddfa fferm yn werthfawr iawn i’r diwydiant trwy gyflymu datblygiad y fuches, rhoi hwb i allu’r fferm i gystadlu a’i chynaliadwyedd.”
Bydd y prosiect yn ariannu profion genomig ar 410 o heffrod Holstein Friesian yn bennaf i asesu eu potensial genynnol. Mae’r wyth fferm wedi rhestru’r nodweddion y maent yn anelu i’w gwella yn eu buchesi a bydd y cynnydd tuag atynt yn cael ei asesu dros eu cyfnod llaetha cyntaf.
Nod y prosiect yw:
- Cynhyrchu coeden benderfyniadau ar gyfer defnyddio genomeg
- Pennu’r berthynas rhwng y potensial trosglwyddo genomig (PTA) a’r gwir berfformiad
- Cael gwell dealltwriaeth o broffil genynnol y fuches, y cyfeiriad y mae’n teithio iddo ac effaith penderfyniadau bridio ar bob fferm sy’n cymryd rhan
- Cynhyrchu dadansoddiad mantais/cost profi genomig ar gyfer sefyllfa pob fferm
“Trwy fuddsoddiad bach mewn profi genomig, gall cynlluniau bridio gael eu hailstrwythuro i gael y cynnyrch gorau o’r adnoddau mwyaf gwerthfawr ar y fferm laeth, y fuches.”
Y dasg gyntaf i’r ffermwyr fydd dewis yr heffrod i’w cynnwys yn y prawf. Bydd samplau DNA yn cael eu cymryd o’r heffrod cyn eu hanfon i gael proffil genynnol mewn pryd at y tro cyntaf y byddant yn bridio yn 13-15 mis oed.
Adroddiadau, Fideos ac Erthyglau:
Poster (Ionawr 2020): Crynodeb o ardoddiad interim y prosiect genomig
Adroddiad (Awst 2019): Adroddiad Interim y prosiect profion genomig ar heffrod …
Cyhoeddiad Technegol (Mai/Mehefin 2019): A all profion genomig gynyddu’r gwelli…
(Ionawr 2019): Vicky Hicks, Kite Consulting, yn esbonio Profion Genomeg y:
(Mai 2018): Potensial cynnal profion genomig ar heffrod llaeth (Dewi Jone:
Cyhoeddiad Technegol (Ionawr/Chwefror 2018): Asesu potensial profion genomig i …
Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.
Mwy o wybodaeth am y prosiect:
- Enw:
- Neil Blackburn
- Cyfeiriad e-bost:
- Neil.Blackburn@kiteconsulting.com
- Email project contact