Lleoliad:
Gwynedd
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£38030.00

Mae Serenyn gwyn (Drima martima) yn lysieuyn lluosflwydd sy’n frodorol i ardal y Canoldir. Mae’r darn oddfog ar ei waelod yn cynnwys nifer o steroid glycosides (Bufadienolides) sy’n gyfansoddion allweddol mewn sawl moddion peswch.  Yn y blynyddoedd diweddaraf, mae’r planhigyn wedi cael ei ddadwreiddio a’i gasglu’n sylweddol yn ei wlad frodorol, ar gyfer cwmnïau fferyllol, ac mae’r galw am bufadienolide yn cynyddu.

Mae ymchwil diweddar ar raddfa fechan wedi dangos ei bod yn bosib tyfu amrywiaeth benodol o serenyn yng Ngwynedd. Profwyd, hefyd, ei fod yn cynnwys dwywaith yn fwy o’r ansoddau actif na’r amrywiaeth sy’n cael ei gynhyrchu dramor. Mae pum ffermwr yn cymryd rhan yn y prosiect 18 mis hwn fydd yn archwilio’r gallu i dyfu serenyn mewn lleoliadau gwahanol ar draws gogledd Cymru. Y nod yw deall beth yw’r amodau tyfu gorau posib yn ogystal â thechnegau echdynnu a chynaeafu.  Yn ystod gwanwyn 2018, bydd 200kg o fylbiau serenyn yn cael eu plannu ar y lleiniau arbrofol gydag uchder, pH, agronomeg a thir gwahanol i bob un.

Os yw’r canlyniadau’n gadarnhaol, gallai tyfu serenyn yn fod yn ddewis arallgyfeirio i ffermwyr Cymru.

Tyfu - Plannu lleiniau arbrofol o serenyn mewn nifer o leoliadau ar draws gogledd Cymru

Cynhyrchu - Ymchwilio ffyrdd o gynaeafu a phrosesu serenyn er mwyn gwahanu’r cyfansoddion bioactif a dargedwyd

Agronomeg - Canfod data a dadansoddiad o’r arbrofion tyfu 

Gwerthuso Marchnad - Canfod marchnadoedd addas ar gyfer y cyfansoddion bioactif

Model Busnes - Datblygu a gwerthuso model ariannol o’r cyfle busnes.

Adroddiadau, Fideos ac Erthyglau:

Adroddiad (Mehefin 2019): Adroddiad Interim Serennyn

Cyhoeddiad Technegol (Mai/Mehefin 2018): Astudiaeth dichonolrwydd ar gynhyrchu …

 

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Elaine Rees
Email project contact