Lleoliad:
Sir Benfro
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£14900.00

Datblygu cyfleusterau yn y gymuned ar gyfer pobl hŷn

Crynodeb o’r prosiect: 

Cyflogwyd Datblygwr Prosiect i ymchwilio i’r angen am gyfleusterau i bobl hŷn yn y gymuned leol, gan gynnwys clybiau cinio, dosbarthiadau iechyd a lles, cyfleoedd gwirfoddoli a gweithio gyda Chanolfan Gofal Dydd Lee Davies ar y safle gyda golwg ar ehangu darpariaeth.   
 
Canlyniadau’r Prosiect:

Fe wnaeth y Datblygwr Prosiect Pobl Hŷn ymchwilio i a chasglu data arolwg gan dros 100 o bobl dros 55 oed, gan ofyn eu barn am wasanaethau a gweithgareddau yn Arberth. Darganfu fod yna angen am glwb cinio a diddordeb lleol mewn rhannu bwyd dros ben. Arweiniodd hyn at Brosiect Oergell a Phantri Cymunedol wedi’i ariannu gan LEADER ar gyfer 2018-20 gyda mewnbwn cymunedol i gynllun cyflenwi a dylunio’r prosiect. Mae clwb cinio cysylltiedig yn cael ei ddatblygu, gyda chymorth y cyngor sir. 

Fe wnaeth y swyddog prosiect hefyd greu cronfa ddata o dros 60 grŵp sy’n croesawu pobl hŷn yn Arberth, gan rannu gwybodaeth gyda grwpiau eraill. Mae NDCSA wedi ffurfio partneriaethau newydd gyda Celfyddydau SPAN, Ymddiriedolaeth Trussell, Banc Bwyd Sir Benfro, Hubbub, Yr Ymgyrch i Ddod ag Unigrwydd i Ben a llawer o grwpiau lleol llai sy’n croesawu pobl hŷn. 

Mae’r prosiect hefyd wedi cysylltu grwpiau pobl hŷn yng Nghanolfan Bloomfield gyda grwpiau gofal plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd o fudd i’r hen a’r ifanc fel ei gilydd, e.e. Canolfan Gofal Dydd Lee Davies a Meithrinfa Ddydd Bloomfield.  

Darparodd 41 o wirfoddolwyr lleol 276 awr o amser gwirfoddol yn ystod y prosiect. 

Prosiect LEADER newydd ar gyfer 2018 – 2020 - Oergell a Phantri Cymunedol yn defnyddio bwyd dros ben a datblygu clwb cinio cysylltiedig.
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Janine Perkins
Rhif Ffôn:
01834 860293
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.bloomfieldcommunitycentre.co.uk/