Lleoliad:
Ceredigion
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£61442.74

Cefndir

Cyflogodd Cyngor Sir Ceredigion Swyddog Datblygu Digidol ar gyfer Ceredigion i ysbrydoli, arwain a chynghori unigolion, cymunedau a busnesau ledled Ceredigion, nad oedd ganddynt unrhyw gysylltedd digidol neu gysylltedd digidol cyfyngedig, ar ystod o opsiynau er mwyn gwella’r mynediad at dechnolegau digidol a'r defnydd ohonynt.

Ymgysylltodd y swyddog â'r gymuned a sefydliadau mewn sawl ffordd gan gynnwys gwneud cyflwyniadau i Gynghorau Tref a Chymuned a rhanddeiliaid lleol. Nod yr ymgysylltu oedd datblygu gwell dealltwriaeth o anghenion digidol lleol er mwyn gallu ymateb i'r rheini a datblygu datrysiadau amgen ar lawr gwlad. Roedd mabwysiadu technoleg ddigidol yn cynnwys band eang a thechnolegau newydd eraill fel LoRaWAN.

Protocol rhwydweithio ardal eang, pŵer isel yw'r LoRaWAN a ddyluniwyd i gysylltu ‘pethau’ a weithredir gan fatri â’r rhyngrwyd mewn rhwydweithiau rhanbarthol, cenedlaethol neu fyd-eang. Mae'n cysylltu dyfeisiau â'r rhyngrwyd yn ddi-wifr ac yn rheoli’r cyfathrebu rhwng dyfeisiau nod pen a phyrth rhwydwaith. Defnyddiodd y datblygiad yng Ngheredigion tua 35 porth ac mae monitro amgylcheddol, cyfrif nifer yr ymwelwyr mewn trefi a diogelwch fferm yn rhai enghreifftiau o'r defnydd cyfredol ohono. 

Canlyniadau a Chynlluniau ar gyfer y Dyfodol

Cafodd y prosiect effaith gadarnhaol ar y sir gan ei fod wedi gweld nifer sylweddol o drigolion a busnesau yn cael eu cefnogi i archwilio i’r opsiynau a’r cyllid o ran gwella cysylltedd band eang. O ganlyniad i'r prosiect hwn, rhoddwyd cymeradwyaeth ar gyfer pwyntiau mynediad Wi-Fi mewn Trefi a fydd yn galluogi i ddadansoddiadau Canol Tref gael eu gwneud a chyfrif nifer yr ymwelwyr yn
Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul, Tregaron a Chei Newydd. O ganlyniad i COVID-19 mae mwy o ddibyniaeth ar gysylltedd digidol wrth i fwy o bobl weithio gartref ac angen mynediad at wasanaethau ar-lein eraill arnynt. Amlygodd y prosiect hwn nad oedd gan gyfran fawr o eiddo yng Ngheredigion fynediad at fand eang cyflym a dibynadwy. Felly, o ganlyniad i'r ddau ffactor hyn, cyflwynodd Cyngor Sir Ceredigion, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, astudiaeth beilot i dreialu’r ddarpariaeth o lwybryddion 4G.

Yn gyffredinol, mae'r prosiect wedi cynhyrchu mwy o ymwybyddiaeth o'r opsiynau a'r cyllid sydd ar gael i breswylwyr a sefydliadau i wella eu cysylltiadau band eang, a bydd y gwaith yn parhau hyd at 2022 trwy hwyluso a chefnogi mynediad pellach at dechnolegau digidol.

  • Nifer arfaethedig y prosiectau ffibr i eiddo - 18+ gyda 6 eisoes wedi'u cymeradwyo
  • Cynnydd mewn % o ran argaeledd Superfast (> 30Mbps) - 84.5% o fis Awst 2021
  • Nifer y rhanddeiliaid a ymgysylltodd - 200+
  • Nifer y cymunedau a ymgysylltodd – 40

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Meleri Richards
Rhif Ffôn:
01545 570881
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.cynnalycardi.org.uk/